Mae cael gwasanaeth rheilffordd trydanol o dde Cymru i Lundain yn flaenoriaeth
Dydi cynlluniau trafnidiaeth bwysig, fel gwasanaeth trên cyflym a chysylltiadau ffordd rhwng Cymru a Lloger, ddim yn cael digon o flaenoriaeth yn ôl Aelodau Seneddol. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn galw am well cydweithrediad rhwng gweinidogion y DU a Chymru i greu polisi trafnidiaeth gyhoeddus ar y cyd. Er mwyn hybu twristiaeth ac adloniant maen nhw am weld amserlen trenau hwyrach rhwng de Cymru a Llundain. Dywed llywodraethau Cymru a'r DU bod gweinidogion yn trafod. Honnir bod prisiau tocynnau oriau brig yn rheswm dros bobl i ddewis defnyddio eu ceir.
 |
CRYNODEB O'R ADRODDIAD
Rheilffordd Gwell cydweithrediad o'r gwahanol gwmnïau rheilffordd. Methiant i broffwydo cynnydd teithwyr, diffyg stoc cerbydau a phrisiau tocynnau oriau brig yn "siomedig". Angen amserlen hwyrach a blaenoriaeth i wasanaeth rheilffordd drydanol rhwng de Cymru a Llundain.
Ffyrdd Gwelliant i brif ffyrdd rhwydwaith yn cael eu dal yn ôl oherwydd diffyg cynllunio strategol
Bysiau Anghysonderau rhwng pas bws Cymru a Lloegr angen ei ddileu, yn enwedig i'r rhai sy'n teithio'n bell
Awyr Nifer o deithwyr o Gymru yn defnyddio meysydd awyr Lloger - unai oherwydd natur ddaearyddol neu nad ydi Caerdydd ddim yn darparu digon o lefydd. Mae gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o Gymru i feysydd awyr Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn "annigonol"
Ffynhonnell: Adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig
|
O'r defnyddwyr ddewisodd y trên roedd 'na yn aml ddiffyg "cerbydau" yn enwedig ar yr amser mwya prysur. Dywed y pwyllgor mai bach iawn o welliant oedd wedi bod ar wasanaeth prif rwydwaith First Great Western. Roedd ansawdd y gwasanaeth yn dal yn "annerbyniol". "Os ydi pobl angen cael eu perswadio i adael eu ceir adref a defnyddio gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid i'r gwasanaethau yna fod o safon," meddai cadeirydd y pwyllgor, Hywel Francis. Rhybuddiodd yr adroddiad bod cysylltiadau ffordd bwysig ddim yn cael eu hariannu am nad oedden nhw'n flaenoriaeth i ardaloedd Lloegr. "Er ein bod wedi cael clywed am enghreifftiau da, er enghraifft yn y gogledd-ddwyrain, mae 'na nifer o gyfleodd yn cael eu colli," ychwanegodd Dr Francis. Ar frig y rhestr o flaenoriaethau ar gyfer yr ASau oedd datblygu'r rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain yn un trydanol. Dywedodd y pwyllgor y byddai hyn yn arwain at wasanaeth llawer gwell i deithwyr. Yn ôl yr adroddiad hefyd fe fyddai gwasanaeth trenau hwyrach o dde Cymru yn hwb i adloniant a thwristiaeth yn yr ardal, rhywbeth sydd eisoes wedi cael ei wneud ym Mryste a Sir Efrog. Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad a'r Adran Drafnidiaeth bod gwasanaeth rheilffordd yn allweddol ar eu cyfer. Adnoddau cyfyng "Fe fydd y llywodraeth yn buddsoddi £15 biliwn yn y rhwydwaith trenau drwy Gymru a Lloger dros y pum mlynedd nesaf ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Cynulliad i edrych yn benodol ar achos gwneud y rhwydwaith o Lundain i Abertawe yn un trydanol," meddai llefarydd ar ran yr adran drafnidiaeth. Ond mae'r adroddiad yn anhapus gyda'r modd mae'r adran drafnidiaeth wedi caniatáu i awdurdodau Lloegr gymryd rhai penderfyniadau a blaenoriaethau ffyrdd. Dywed nad oedd yn dderbyniol i'r adran adael materion i gyrff oedd efo adnoddau cyfyng. "Fe ddylai'r adran drafnidiaeth, Llywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol bob ochr i'r ffin, adolygu eu blaenoriaethau a sicrhau gwell cydweithrediad," ychwanegodd Dr Francis. Roedd y pwyllgor yn feirniadol hefyd am y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i'r prif feysydd awyr fel Birmingham, Lerpwl a Manceinion. Ychwanegodd y byddai modd lleihau traffig dros y ffin petai'r maes awyr yng Nghaerdydd yn cynnig gwasanaeth i fwy o lefydd. Ond daw'r sylw ddyddiau ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi na fydd ffordd newydd i'r maes awyr yn cael ei ddatblygu. Eisoes roedd AS Bro Morgannwg, John Smith, wedi dweud bod y penderfyniad yn un "gwallgo" yn "economaidd" ac yn "benderfyniad di-hid i economi Cymru". Dydd Mercher hefyd fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones gyhoeddi na fydd y cynllun i ddatblygu ffordd chwe lon i liniaru traffig ar draffordd yr M4 ger Casnewydd yn mynd ymlaen chwaith oherwydd cynydd mewn costau. Wrth ymateb i adroddiad yr ASau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y bydd swyddogion a'r dirprwy brif weinidog yn parhau i gydweithio gyda swyddogion yn Llundain. "Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i wella cynllunio a chwblhau cynlluniau trafnidiaeth yng Nghymru ar gyfer cynllun trafnidiaeth genedlaethol."
|