Rhagolygon: Mwy o law trwm mewn mannau ddydd Gwener
|
Mae 'na law trwm wedi achosi llifogydd mewn mannau. Fe gafodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin sawl galwad ffôn am fod llifogydd yn effeithio ar dai, adeiladau a ffyrdd. Roedd llifogydd yn ardal Trimsaran, Llanelli, Gorseinon, Pontarddulais, Rhydaman, Llandeilo a Phenrhyn Gŵyr. Yn Llanelli fe gafodd o leia wyth o dai eu difrodi gan lifogydd. Roedd difrod yng ngwesty Half Way House oherwydd mwy na na thair troedfedd o ddŵr. Dros dro Bu'n rhaid i'r gwasanaeth trên rhwng Abertawe a Llanelli gael ei atal dros dro oherwydd llifogydd. Roedd peirianwyr ar y safle yn gwneud gwaith cynnal a chadw brys. Dywedodd Network Rail bod y gweithwyr yn ceisio delio â'r sefyllfa mor fuan â phosib. "Mae'r tywydd yn effeithio ar y gwaith ond rydyn ni'n dal i gadw llygad ar y sefyllfa ..." Yn Llandeilo roedd adroddiadau bod cerbyd yn sownd ger Tafarn yr Arad yn Rhosmaen. Cafodd yr A4118 ei chau oherwydd llifogydd. Dymchwel Mewn tŷ yn Caswell, Penrhyn Gŵyr, roedd mwy na fetr o ddŵr, yn ôl y gwasanaeth tân gafodd eu galw am 5.28am ddydd Gwener. Ym mhentref Reynoldston cafodd clawdd ei ddymchwel ac roedd difrod i nifer o dai. Cafodd diffoddwyr eu galw oherwydd problemau ym Mhenclawdd, Llangennech a Dafen. Mae Clwb Golff Trefdraeth yn Sir Benfro wedi gohirio eu diwrnod Golff Menywod oherwydd bod y cwrs o dan ddŵr. Yn ôl y rhagolygon, fe fydd mwy o law trwm mewn mannau ddydd Gwener.
|