Mae'r cyhoeddiad yn newyddion da i'r gweithwyr yn Sir y Fflint
|
Cyhoeddodd cwmni ceir Toyota y bydd peiriannau petrol a thrydan newydd yn cael eu cynhyrchu yn eu ffatri yn Sir y Fflint. Fe fydd y peiriannau hybrid ar gyfer yr Auris newydd yn cael eu cynhyrchu yn y ffatri ar Lannau Dyfrdwy wrth i'r ceir gael eu cynhyrchu yn Sir Derby. Mae'n hwb i dros 500 o weithwyr Sir y Fflint ar ôl cyfnod ansicr. Yn gynharach eleni fe wnaeth y gweithwyr ddewis derbyn 10% yn llai o gyflog gan fod y galw am geir newydd wedi gostwng cymaint. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud bod y cyhoeddiad yn hwb enfawr i'r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bydd yr injan i geir newydd Auris yn defnyddio 20% yn llai o danwydd na cheir sy'n rhedeg ar betrol yn unig. Buddsoddiad "Mae Toyota wedi cymryd cam sicr ymlaen i sicrhau bod ceir hybrid yn dod yn fwy amlwg ac ar gael i fwy o gwsmeriaid," meddai Prif Weithredwr Ewrop y cwmni, Tadashi Arashima. "Mae'r penderfyniad i gynhyrchu'r ceir yn llwyr yn y DU yn adlewyrchu'n hyder yn yr ansawdd a'n haddewid i weithwyr Toyota UK ac wrth gwrs cryfder hirdymor ein partneriaeth gyda Llywodraeth y DU."
Mae'r car Auris yn defnyddio 20% yn llai o danwydd
|
Dywedodd bod y cyhoeddiad yn newyddion cadarnhaol i Toyota ond hefyd i'r cyflenwyr a'r cymunedau lleol yn y DU. "Mae hwn yn cynrychioli buddsoddiad yn nyfodol technoleg y diwydiant ceir ac yn nyfodol un o ganolfannau cynhyrchu pwysica'r gogledd," meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog Trafnidiaeth ac Economi, Ieuan Wyn Jones. "Fe fydd Glannau Dyfrdwy ar flaen y gad yn y diwydiant. "Bydd hyn hefyd yn diogelu amrywiaeth o swyddi yno ac yn dangos bod gan un o gwmnïau mwya'r byd hyder yn y sgiliau sydd ar gael ac yn y gweithlu yng Nghymru." Fe gychwynnodd Toyota gynhyrchu peiriannau yng Nglannau Dyfrdwy yn 1992. Mae'n cyflogi 550 o weithwyr yno. Mae'r Toyota Auris wedi bod ar y farchnad yn Ewrop ers 2007 ac mae dros 370,000 o gerbydau wedi cael eu gwerthu.
|