British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009, 20:52 GMT 21:52 UK
Ffliw moch: Annog pobl i aros adre

Pamffled gwybodaeth ffliw moch
Mae llyfryn gwybdoaeth wedi cael ei ddosbarthu i bob cartref

Mae pobl sy'n diodde o symptomau tebyg i'r ffliw yn cael eu hannog i aros adref ar ôl i nifer o gleifion ymweld ag uned achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn annog pobl i beidio mynd i'r ysbytai ond yn hytrach i aros adref a derbyn cyngor dros y ffôn neu'r we.

Daw'r hyn wrth i nifer yr achosion o'r ffliw moch yng Nghymru gyrraedd 67.

Dywedodd Dr Tony Jewell hefyd na ddylai pobl fynd i weld eu meddyg teulu na mynd i'r fferyllfa chwaith rhag ofn eu bod yn lledu'r haint i eraill.

BETH I'W WNEUD?
Os yw unrhyw un yn diodde o symptomau'r ffliw fe ddylai aros gartre
Angen edrych ar wefan Galw Iechyd Cymru neu eu ffonio i gadarnhau symptomau - ac os ydyn nhw'n dal yn ansicr, cysylltu ar y ffôn gyda'r meddyg teulu
Ddylai neb fynd i'r feddygfa na'r uned damweiniau brys
Cariwch hancesi papur gyda chi drwy'r amser
Defnyddiwch hancesi glân i guddio'ch ceg a'ch trwyn pan ydych chi'n peswch ac yn tisian
Taflwch yr hancesi i'r bin ar ôl eu defnyddio unwaith
Golchwch eich dwylo â sebon a d?r poeth neu â hylif diheintio, yn aml
Llinell ffôn Gwybodaeth Ffliw'r Moch: 0800 1 513 513 neu wasanaeth Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47

"Er gwaetha cyngor gen i ac eraill mae 'na adroddiadau bod 'na gynnydd yn y nifer o bobl sydd wedi ymweld ag uned frys Ysbyty Athrofaol Cymru gyda symptomau'r ffliw," meddai.

"Dwi'n dal i bwysleisio, os oes gan unrhyw un symptomau tebyg i'r ffliw, fe ddylen nhw aros adref, edrych ar wefan y gwasanaeth iechyd neu gysylltu gyda llinell wybodaeth ffliw'r moch.

"Os ydi'r symptomau yn achosi pryderon neu os ydy person yn y grwp sydd mewn mwy o risg fe ddylen nhw ffonio llinell wybodaeth Galw Iechyd Cymru neu eu meddyg teulu a fydd yn asesu'r symptomau.

"Ddylai pobl ddim mynd i'r unedau brys, ymweld â'r meddyg teulu na'r fferyllfa rhag ofn iddyn nhw ledu'r haint."

Ychwanegodd y gallai ymweliadau â'r ysbytai neu'r feddygfa achosi mwy o bwysau ar y staff ac i'r cleifion eraill sydd mewn angen triniaeth frys.

Y grwp sydd â'r risg mwya yw'r rhai gyda chyflyrau cronig, plant o dan 5 oed a merched beichiog.

Gwefan y Gwasanaeth Iechyd Cymru yw www.wales.nhs.uk/w-index.cfm



HEFYD
Ffliw moch: Pwy sy'n talu?
03 Gorff 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Achos tebygol cynta
29 Mai 09 |  Newyddion
Ffliw moch: Profion ar 90
27 Mai 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific