British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009, 09:37 GMT 10:37 UK
Profion: 2,400 yn anghywir

Adroddiad yr arolygiaeth iechyd
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ddydd Gwener

Mae ymchwiliad i uned profion canser mewn ysbyty wedi canfod bod 'na gamgymeriadau mewn 2,459 o achosion.

Mewn 181 o achosion, meddai'r adroddiad, fe allai camgymeriadau uned yn Ysbyty Wrecsam Maelor fod wedi "effeithio'n bendant" ar driniaeth canser cleifion.

Mae Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Cymru, sy wedi ymddiheuro i gleifion a'u teuluoedd, wedi dweud bod argymhellion yr adroddiad wedi eu gweithredu.

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru luniodd yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Mae cyfreithwyr y teuluoedd o dan sylw wedi dweud eu bod angen esboniad llawn am y camgymeriadau.

Roedd patholegydd a locwm oedd yn rhan o gylch gwaith yr ymchwiliad, Dr Roger Williams, wedi gadael ei waith.

Ar y cychwyn, daeth ymgynghorydd arall o hyd i dri chamgymeriad ym mis Ionawr 2008.

Ond fe chwiliodd newyddiadurwyr am gleifion yr oedd Dr Williams wedi tsiecio eu profion rhwng 2004 a 2007.

Oherwydd hyn bu'n rhaid ail-brofi mwy na 11,000 o ganlyniadau "clir".

Ar y pryd dywedodd Dr Williams wrth bapur newydd ei fod yn wirioneddol ddrwg ganddo am yr hyn oedd wedi digwydd ac am "unrhyw ofid a allai fod wedi ei achosi i gleifion".

Y CAMGYMERIADAU
Dosbarth 1: Camgymeriad diagnostig sy'n debygol o ddylanwadu'n bendant ar reoli clinigol a chanlyniadau posib;
Dosbarth 2: Camddehongli neu amryfusedd a allai effeithio ar reoli clinigol neu ganlyniadau
Dosbarth 3: Mân anghysondeb mewn categorïo clefydau - ddim yn debygol o fod o bwys clinigol

"Roedd yr ymgynghorydd (oedd hefyd yn gyn-gyfarwyddwr meddygol hen Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Ddwyrain Cymru) oedd yn gysylltiedig â cham-adrodd y canlyniadau wedi ymddeol cyn ein hadolygiad," meddai'r adroddiad.

"Er i ni ei wahodd i gyfrannu at yr adolygiad, gwrthododd gan ei fod wedi ymddeol.

"Felly nid ydym wedi gallu ystyried unrhyw dystiolaeth uniongyrchol gan yr ymgynghorydd o ran ffactorau sy'n ymwneud â'i amgylchiadau neu arferion gwaith a allai fod wedi dylanwadu ar ein canfyddiadau."

Mae'n ffaith fod o leia ddau glaf oedd wedi cael canlyniadau "clir" wedi marw.

Ond mynnodd swyddogion yr ysbyty yn 2008 fod y ddau glaf wedi cael canlyniadau clir oherwydd profion eraill ac na fyddai eu triniaeth wedi bod yn wahanol.

Mae'r ymchwiliad yn cyfeirio at dri dosbarth gwahanol a 181 sampl yn y dosbarth mwya difrifol.

Roedd 479 achos yn yr ail ddosbarth llai difrifol a 1,799 sampl yn y trydydd dosbarth.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o bryderon am yr uned sgrinio, gan gynnwys diffyg cydweithio ymhlith ymgynghorwyr, pwysau gwaith ers 2004 ac adeilad labordy y mae ei gyflwr "wedi bod yn well".

Dr Roger Williams
Gwrthododd Dr Roger Williams gymryd rhan yn yr ymchwiliad

Ac mae'n sôn am y broses pan mae ymgynghorydd arall yn cadarnhau'r canlyniadau.

Yn ôl yr adroddiad, dim ond pan oedd y sampl yn awgrymu canser y byddai hyn yn digwydd yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

Dywedodd yr ymchwiliad y dylai ail bâr o lygaid edrych ar biopsi sy'n ymddangos yn glir.

Mae'r adroddiad yn cynnwys 12 argymhelliad.

Ond mae'r awdurdod yn cyfadde nad ydyn nhw'n gwybod yn sicr pam bod y camgymeriadau wedi eu gwneud.

'Blaenoriaeth'

"Yn absenoldeb tystiolaeth yr ymgynghorydd oedd yn gysylltiedig â'r camadrodd, ni allwn ni gasglu'n bendant ...," meddai'r adroddiad.

Mae'r ymddiriedolaeth wedi dweud: "Ein blaenoriaeth ni yw gofal a lles ein cleifion.

"Mi weithredon ni mor gyflym â phosib ar ôl i'r mater ddod i'r amlwg - a chynnal adolygiad trylwyr o staff a threfn yr adran."

Mae'r newidiadau wedi cynnwys trefn fwy cadarn o ran ailwirio achosion, cyfarpar newydd sy'n golygu y gall o leia ddau ymgynghorydd edrych yn fanwl ar samplau.

"Oherwydd y newidiadau fe fydd llai o risg i'r camgymeriadau ddigwydd eto."



HEFYD
Canser: Mwy o anghysonderau
29 Ion 08 |  Newyddion
Ysbyty: Mwy o gamgymeriadau?
21 Ion 08 |  Newyddion
Adolygu achosion canser 'coll'
16 Ion 08 |  Newyddion
Ysbyty: Dau glaf wedi marw
17 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific