British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009, 05:53 GMT 06:53 UK
Ariannu: 'Angen ailfeddwl'

Arian a baner Cymru
Y fformiwla 'dymor byr' yn 30 oed

Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud y dylai Llywodraeth Prydain ailedrych ar y fformiwla sy'n penderfynu faint o arian mae Cymru yn ei dderbyn oddi wrth y Trysorlys.

Yn ôl Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi, mae angen dileu Fformiwla Barnett am ei bod hi'n "annheg" ac mae angen trefn "wedi ei seilio ar anghenion economaidd gwahanol rannau o Brydain".

Ond mae'r Trysorlys wedi dweud nad oes cynlluniau i newid y fformiwla.

Yr wythnos ddiwetha dywedodd adroddiad Comisiwn Holtham y gallai Cymru dderbyn hyd at £8.5 biliwn yn llai dros 10 mlynedd oherwydd y fformiwla.

Mwy o adnoddau

Mae Fformiwla Barnett wedi penderfynu lefel grant blynyddol Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon oddi wrth y Trysorlys ers 1978.

Ond, yn ôl yr Arglwyddi, roedd i fod yn system dymor-byr.

Gerald Holtham
Dywed adroddiad Gerald Holtham bod angen dileu'r fformiwla

Mae'r fformiwla yn seiliedig ar boblogaeth ond mae'r adroddiad diweddara yn dweud y dylai'r arian gael ei rannu ar sail angen.

Fe ddylid ystyried ffactorau fel oedran y boblogaeth, lefelau incwm, iechyd a gwendid economaidd wrth benderfynu sut mae rhannu'r arian, meddai'r adroddiad.

Wrth ystyried cyfres o ffactorau, fe gasglodd y pwyllgor fod gan Gymru a Gogledd Iwerddon fwy o angen y pen na'r Alban a Lloegr.

Mae'n argymell sefydlu corff annibynnol i benderfynu fformiwla newydd ac asesu sut mae'n gweithio'n rheolaidd.

Dywedodd y gallai'r newidiadau i'r grantiau gael eu cyflwyno o fewn pum mlynedd.

'Dileu'

Wrth ymateb i'r adroddiad diweddara, dywedodd Plaid Cymru bod rhaid dileu Fformiwla Barnett "fel mater o fyrder".

"Mae'r dystiolaeth i gyd yn dangos bod angen newid," meddai Adam Price AS.

"Fel mae'r adroddiad yma yn ei nodi, rhywbeth tymor byr oedd y fformiwla i fod.

"Mae bellach wedi dyddio ac fe fyddai unrhyw wrthwynebiad i'w dileu yn anghyfrifol ac yn sarhad ar bobl Cymru."



HEFYD
Ariannu: 'Angen newid y drefn'
07 Gorff 09 |  Newyddion
Comisiwn: Holtham wrth y llyw
08 Gorff 08 |  Newyddion
Arglwyddi yn trafod arian i Gymru
20 Maw 09 |  Newyddion
Adolygiad treth a chyllideb
20 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific