British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009, 05:57 GMT 06:57 UK
Gwyl 'arall' newydd i dref

Eirian James yn Neuadd y Farchnad
Un o'r atyniadau fydd Neuadd y Farchnad

Wrth i ŵyl dridiau newydd gael ei chynnal yng Nghaernarfon mae'r trefnydd yn gobeithio y bydd yn datblygu yn ddigwyddiad blynyddol.

Yn Gŵyl Arall, ddechreuodd ddydd Gwener, mae atyniadau cerddorol, llenyddol a chelfyddydol.

Mae nifer o'r digwyddiadau am ddim ac yn cael eu cynnal mewn saith lle gwahanol yng nghanol y dref.

Yn eu plith mae sesiynau gydag awduron, cerddorion ac artistiaid.

Ac mae cystadleuaeth lluniau, ffilm fer, taith lenyddol rownd tafarnau'r dref, noson o farddoniaeth a barbeciw.

"Mae'r penwythnos wedi tyfu oherwydd bod nifer o bobl wedi ymweld â Gŵyl Talacharn," meddai'r trefnydd Eirian James.

Ar gwch

"Daeth criw ohonon ni at ein gilydd, ac mewn cyfnod o chwe wythnos daeth popeth at ei gilydd."

Nos Wener roedd tad a merch yn cynnal noson yn Neuadd y Farchnad.

Wrth i Manon Steffan drafod ei nofel newydd roedd ei thad Steve Eaves yn chwarae rhai o'i ganeuon.

Ac mewn dau atyniad arall yn y dref mae bandiau'n chwarae.

Un o atyniadau dydd Sadwrn yw digwyddiad ar gwch ar y Fenai gyda'r artist aml-gyfryngol Bedwyr Williams sy'n sôn am ei waith gafodd ei ddangos yn Biennale Fenis.

Mae'r awduron Mike Parker a Jon Gower yn trafod eu hobsesiwn gyda mapiau a chyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn yn Saesneg yn trafod ei nofel Gymraeg newydd 'Dŵr'.

Bedwyr Williams
Bedwyr Williams fydd un o'r rhai sy'n cynnal sesiwn

Mae 'na ddigon o amrywiaeth o fandiau yn chwarae yn rhai o'r tafarndai a dydd Sul fe fydd 'na sesiynau gwerin y daith lenyddol drwy'r tafarndai a Stomp yn Neuadd y Farchnad.

"Ac mae 'na gyfieithiadau ar gael mewn rhai digwyddiadau gan fod 'na nifer di-Gymraeg â diddordeb yn yr artistiaid," meddai Ms James.

"Rydym eisiau i hyn lwyddo a bod gan y bobl eu gŵyl ei hunain.

"Nid gŵyl i ni fel trefnwyr yw hon ond gŵyl i'r bobl sy'n cymryd rhan ac yn dod i wylio a gwrando ...

"Efallai y bydd rhai digwyddiadau'n troi'n rhai misol, fel y sesiwn werin."

Mae'r digwyddiadau yn cael eu cynnal hefyd yn Medi, Neuadd Y Farchnad, Y Clwb Ceidwadol, Tafarn yr Anglesey, Tafarn Morgan Lloyd.



HEFYD
Profiad Fenis yn hwb i Gymro
24 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific