British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009, 12:57 GMT 13:57 UK
Ymosodiad: Rhyddhau dyn

Mae dyn yn ei ddauddegau yn yr ysbyty o hyd ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben yn Llanrwst.

Aed â'r dyn i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan cyn cael ei symud i Ysbyty Walton yn Lerpwl lle mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i ardal Glanrafon am 1.54am ddydd Iau.

Roedd dau ddyn 18 a 21 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anafu.

Cafodd y dyn 18 oed ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae'r heddlu yn ymchwilio.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yn Llanelwy ar 0845 607 1001 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific