British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009, 11:09 GMT 12:09 UK
Archfarchnad: Cyflwyno deiseb

Castell Newydd Emlyn
Mae cais cynllunio i godi archfarchnad yn y dre

Mae mwy na 700 o bobol leol wedi arwyddo deiseb i aelodau Cyngor Sir Gaerfyrddin ddydd Iau am eu bod yn erbyn cynllun i godi archfarchnad yng nghanol tre.

Cyfeirio y mae'r cynllun at godi archfarchnad ar safle Ceir Cawdor yng nghanol Castell Newydd Emlyn.

Mae ymgyrchwyr, gan gynnwys 10 busnes, wedi dweud y bydd archfarchnad yn effeithio'n andwyol arnyn nhw ac yn dwysáu problemau traffig.

Cafodd 400 o lythyrau gwrthwynebu eu cyflwyno.

Dywedodd Jill Davies, perchennog siop esgidiau, fod y syniad yn hurt.

"Mae gormod o draffig ar hyn o bryd a dim lle i barcio ar ddiwrnod tawel ... fe fydd yn wa'th os bydd archfarchnad fawr yn cael ei chodi mewn lle bach fel hyn."

'Gwaethygu'

Ond dywedodd y dyn busnes Kevin Davies, perchennog Ceir Cawdor, y byddai'r datblygiad yn golygu mwy o swyddi.

Mae'r Aelod Cynulliad lleol Rhodri Glyn Thomas wedi dweud: "Mae unrhyw un sy'n adnabod y dre yn gwybod fod yna broblemau trafnidiaeth a pharcio'n barod.

"Byddai'r datblygiad yn gwaethygu'r sefyllfa a rhoi pwysau ychwanegol ar fusnesau traddodiadol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin ei bod yn rhy gynnar gwneud sylw ar y mater gan nad ydyn nhw wedi trafod y cynllun.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific