Mr Davies: Wedi bod yn codi arian drwy'r nos ar gyfer tîm pêl-droed
|
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 22 oed o ddynladdiad wedi ymosodiad ar ddyn mewn gwisg ffansi yn 2007. Fe fydd y dyn gerbron Ynadon Casnewydd yr wythnos nesa. Roedd Gareth Davies, 26 oed, wedi cwympo y tu allan i dafarn Wetherspoons John Fielding yng nghanol Cwmbrân yn oriau mân Hydref 28, 2007. Ar y pryd roedd y dyn o Langibby ger Brynbuga yn codi arian drwy'r nos ar gyfer eu tîm pêl-droed. Bu farw yn ddiweddarach yr ysbyty. Roedd crwner wedi cofnodi bod Mr Davies wedi ei ladd yn anghyfreithlon.
|