Dau ofalwr oedd yn ei chwmni'n cadarnhau ei honiadau hi
|
Mae menyw 28 oed â dystroffi'r cyhyrau wedi honni bod staff yn gwrthod gweini arni - am ei bod mewn cadair olwyn. Dywedodd Laura Williams o Gwmafan ei bod hi yn ei dagrau wedi iddi gael ei gwrthod ddwywaith yn siop Hollywood Nails ym Mhort Talbot. Mae'r salon yng Nghanolfan Siopa Aberfan wedi dweud eu bod yn amau fersiwn Ms Williams o'r hyn ddigwyddodd. Ond mae dau ofalwr oedd yn ei chwmni'n cadarnhau ei honiadau hi. Dywedodd Ms Williams ei bod wedi mynd i'r siop ers dwy flynedd. 'Dim heddi' Roedd hi wedi bod i'r siop fis yn ôl, meddai, ac wedi mynd yn ôl yr wythnos ddiwetha. "Fe ddywedodd y dyn: 'Na, dim heddi'. Pan aeth hi'n ôl ar y dydd Llun, meddai, fe ddywedodd y dyn Na unwaith eto a'r rheswm oedd: "Am eich bod mewn cadair olwyn ac am nad ydyn ni'n eich hoffi'." A Phan awgrymodd gofalwr drefnu apwyntmant yr ateb oedd Na, meddai. "Fe ges i sioc. Dyw hyn ddim wedi digwydd o'r bla'n. "Fe ddechreues i lefen ... fe dda'th pobol mas o'r siop nesa a rhoi hancesi papur i fi." Dywedodd ei bod wedi cwyno wrth y rheolwr ac wedi cyfeirio at ei honiadau ar wefan Facebook. "Ddylen nhw ddim trin pobol fel hyn." Gwadu Pan aeth newyddiadurwr ar-lein i'r siop fe gafodd wybod nad oedd y rheolwr ar gael. Wedyn fe ffoniodd "rheolwraig" y siop y newyddiadurwr a gwadu'r honiadau. Dywedodd mai hi fel arfer oedd yn gweini ar Ms Williams ond os nad oedd hi ar gael, fe fyddai staff yn gofyn i'r cwsmer alw ar ddiwrnod arall. Ychydig o Saesneg yr oedd y staff yn ei siarad, meddai, ac efallai bod camddealltwriaeth wedi bod.
|