Y cwmni: Un o gyflogwyr mwya'r gogledd
|
Mae cwmni Aliwminiwm Môn wedi cyhoeddi fod 250 o swyddi yn diflannu. Mae hynny'n ychwanegol at y 140 o ddiswyddiadau gwirfoddol gafodd eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf. Roedd y safle yng Nghaergybi yn cyflogi bron 500. Dywedodd y cwmni fod y diswyddiadau oherwydd "methiant y safle" i ddod o hyd i gytundeb fyddai'n sicrhau cyflenwad o drydan rhad. Mae cytundeb y cwmni â Gorsaf Bŵer Niwclear Yr Wylfa i gael trydan rhad yn dod i ben ym mis Medi. Newyddion trist Yn ôl amserlen y cwmni, bydd cynhyrchu alwminiwm yn dod i ben erbyn mis Medi. Dywedodd Bob Parry, dirprwy arweinydd Cyngor Môn, fod y cyhoeddiad yn newyddion trist iawn. "Mim oeddwn i'n amau fod 'na rywbeth ar y ffordd oherwydd bod y diswyddiadau wedi bod o'r blaen ac mi oeddwn i'n amau y buasai 'na 'chwaneg. "Rhaid i mi fod yn berffaith onest, dwi'n meddwl mai rhoi esgus ydi'r trydan yma. "Maen nhw wedi cael cynnig sylweddol gan y llywodraeth ac os nad oedden nhw'n fodlon derbyn y cynnig, roeddan ni'n gwybod beth oedd eu bwriad ... "Ac mae'n amlwg eu bod nhw am adael y safle. "Mae'r penderfyniad yna wedi ei wneud yn rhan arall o'r byd ac nid ar Ynys Môn." £50 miliwn Mae llythyrau eisoes wedi eu hanfon at y gweithwyr yn eu hysbysu o'r bwriad i ddiswyddo 250. Byddai hynny'n golygu y byddai 80 o bobl yn parhau i weithio ar y safle ail doddi metalau. Dywedodd llefarydd fod ymdrechion ar y gweill i geisio cadw rhannau eraill o'r gwaith, gan gynnwys ail doddi metalau, ar y safle. Ddechrau Gorffennaf fe wnaeth Aliwminiwm Môn wrthod pecyn cymorth £50 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Prydain. Bydd cynrychiolwyr y cwmni yn cwrdd â gwleidyddion yn Llundain ddydd Llun i gynnal trafodaethau pellach ar y pecyn cymorth. Maen nhw'n gobeithio y bydd modd dod o hyd i arian ychwanegol ac y bydd modd atal y diswyddiadau diweddara.
|