British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2009, 07:06 GMT 08:06 UK
M4: Beirniadu penderfyniad

Cylchdro Coldra ar yr M4 ger Casnewydd
Y bwriad oedd codi ffordd newydd i leihau tagfeydd ar yr M4

Mae arweinwyr busnes wedi mynegi pryder am benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i beidio adeiladu ffordd i liniaru trafnidiaeth yr M4 ac effaith hyn ar yr economi.

Ddydd Mercher cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones nad oedd modd cyfiawnhau gwario £1 biliwn ar y ffordd newydd.

Ond dywed CBI Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach fod y ffordd yn bwysig yn natblygiad economi Cymru.

Yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol mae'r newyddion i beidio adeiladu'r ffordd o Fagwyr i Gas-bach yn newyddion da i'r amgylchedd.

Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai arian cyhoeddus ac arian o'r sector breifat yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun a fyddai'n cynorthwyo'r problemau traffig ar y draffordd.

Roedd disgwyl y byddai'r ffordd wedi agor yn 2013.

Yn 1998 yr amcan bris am y ffordd oedd £340 miliwn sydd wedi codi erbyn hyn i'r £1 biliwn.

Prif wythïen

Dywedodd David Rosser, cyfarwyddwr CBI Cymru, fod gwir angen ffordd i liniaru'r traffig yn ardal Casnewydd o'r M4.

"Mae llywodraethau canlynol wedi cynllunio ffordd lliniaru ac yna wedi penderfynu peidio a bwrw mlaen gyda'r cynllun pwysig yma.

"Yr M4 ydi'r brif wythïen sy'n bwydo calon economi Cymru sy'n cael ei thagu."

Yn ôl Russell Lawson o Ffederasiwn y Busnesau Bach mae angen gwella'r draffordd.

"Mae oedi ar y ffyrdd yn golygu costau ychwanegol i fusnesau bychain ac rydym angen i'r llywodraeth ddarparu rhwydwaith ffyrdd sy'n hybu cyfleoedd busnes."

Ond dywedodd llefarydd ar ran CALM, y grwp oedd yn ymgyrchu yn erbyn codi ffordd newydd dros wastadeddau Gwent, eu bod yn croesawu'r newyddion.

"Mae'r draffordd wedi taflu cysgod dros yr ardal a bywyd gwyllt y gwastadeddau am ddegawdau," meddai caderiydd Calm, James Byrne.

"Mae hyn yn ganlyniad gwych i'r amgylchedd ac i drethdalwyr Cymru."

Ddydd Mercher hefyd fe gyhoeddwyd y bydd 'na fesurau amrywiol "fforddiadwy a chynaliadwy" o ran mynediad i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn hytrach na datblygu ffordd newydd.

Roedd y cyhuddiadau yn rhan gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol y llywodraeth gyda'r bwriad o greu "system drafnidiaeth fodern a chynaliadwy i Gymru".



HEFYD
Maes Awyr: Galw am ffordd newydd
19 Ion 04 |  Newyddion
Gwella ffordd: 150 yn protestio
29 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific