Hofrennydd Heddlu De Cymru sydd gan Heddlu Dyfed Powys dros dro
|
Dydi hofrennydd Heddlu Dyfed Powys ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan fod "gwaith cynnal a chadw hanfodol" yn cael eu gwneud. Does 'na ddim sicrwydd pryd y bydd yn barod. Dywedodd yr heddlu nad yw eu hofrennydd, gostiodd £3 miliwn, ar gael a'u bod yn defnyddio hofrennydd o Heddlu De Cymru dros dro. Credir nad ydi'r hofrennydd wedi cael ei defnyddio ers peth amser ond nad oes 'na sicrwydd beth sydd o'i le gyda'r peiriant. Mae'r hofrennydd yn cael ei chadw ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin. Fe wnaeth swyddogion wrthod dweud pryd y bydd yn ôl yn gweithio. Fe wnaethon nhw wrthod datgelu hefyd faint oedd hi'n costio i logi hofrennydd Heddlu De Cymru. "Mae'r hofrennydd yn cael ei gwasanaethu ar hyn o bryd gan fod angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol," meddai llefarydd. "Mae ganddo ni drefniant cyd-gymorth gyda Heddlu De Cymru ac felly rydym yn defnyddio hofrennydd ganddyn nhw dros gyfnodau." Fe wnaeth hofrennydd blaenorol fod mewn damwain ger Cross Hands ar Ddiwrnod Nadolig 2001 ac fe gafodd y criw fan anafiadau. Cafwyd hofrennydd newydd i'r llu ddwy flynedd yn ddiweddarach ar gost o £3 miliwn.
|