Mae'r llywodraeth am leihau nifer sy'n colli eu cartrefi
|
Mae strategaeth i geisio osgoi pobl rhag bod yn ddigartref drwy gynnig ymyrraeth yn gynt wedi ei gyhoeddi ddydd Iau. Fe fydd cynllun 10 mlynedd gan Lywodraeth y Cynulliad yn newid y modd y mae gwasanaethau tai yn cael eu darparu er mwyn ymateb yn gynt i anghenion pobl. Rhai o brif amcanion y strategaeth yw atal digartrefedd drwy roi cymorth i bobl sydd mewn trafferthion, ceisio lleihau nifer y cartrefi sy'n cael eu hadfeddiannu a helpu'r bobl sy'n ddigartre'n barod drwy gynnig llety. Dangosodd y ffigyrau diweddara bod 1,334 o deuluoedd sy'n ddigartref a dros 2,823 mewn llety dros dro. Ym mis Mehefin fe rybuddiodd Shelter Cymru y gallai gostyngiad yn nifer y rhai oedd yn ddigartref wrth-droi yn sydyn yn yr hinsawdd economaidd. Jocelyn Davies, y dirprwy Weinidog Tai, wnaeth gyhoeddi'r cynllun. Un oedd mewn perygl o golli ei chartref oedd Naomi Beverstock, mam i bedwar o blant o Gaerdydd. Dywedodd bod Cymdeithas Tai Cadwyn wedi ymyrryd ac wedi helpu ei theulu.
 |
ELFENNAU ALLWEDDOL
Atal digartrefedd cyn iddo ddigwydd
Cael cyngor am dai yn haws
Lleihau adfeddiannu morgeisi
Cymorth i bobl sy'n cysgu ar y stryd
|
"Roeddwn i'n byw gyda fy mam a oedd yn anabl gyda'r pedwar plentyn mewn fflat dwy lofft," meddai. "Roedd yn ormod. "Fe wnes i gysylltu gyda'r cyngor wnaeth ddweud beth oedd fy opsiynau a son wrtha i am Cadwyn. "O fewn 24 awr i gysylltu gyda Cadwyn cefais gynnig fy lle fy hun o dan gynllun. "Rydym i gyd mor hapus, yn byw mewn t? braf ac mae gan y plant ystafell i chwarae a dwi'n dal yn ddigon agos at fy mam i'w helpu." Dywedodd y gweinidog ei bod eisiau sicrhau bod gan bawb fynediad at y cymorth sydd ei angen a hynny ar y cyfle cyntaf un. "Fy mwriad yw cynnig cefnogaeth a chyngor yn fuan i'r rhai sydd angen ac mewn perygl o golli eu cartrefi. "Ond pan mae pobl yn ddigartref dwi eisiau sicrhau eu bod yn cael y cyngor cywir ar amser anodd iawn iddyn nhw." Dywedodd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, bod 'na groeso i'r cynllun. "Dydi cynlluniau ar ben eu hunain ddim yn mynd i atal digartrefedd ond mae'n angenrheidiol i gynnig arweiniad a chyfeiriad. "Mae 'na botensial i'r cynllun weithio a chynnig fframwaith i'r awdurdodau lleol a'r sectorau eraill i daclo digartrefedd yng Nghymru. "Er bod Shelter Cymru yn parhau i alw am adnoddau ychwanegol, rydym yn derbyn bod rhaid gwireddu'r cynllun o fewn yr adnoddau presennol."
|