British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 19:15 GMT 20:15 UK
Dyn yn syrthio drwy bedwar llawr

Warws Amazon
Y warws yn Abertawe ydi'r mwya sydd gan y cwmni yn y DU

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl syrthio drwy bedwar llawr yn warws mwya'r cwmni gwe Amazon yn Abertawe.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r safle ar Ffordd Fabian toc wedi 12.30pm ddydd Mercher.

Cafodd y dyn, a oedd yn gontractwr yn y warws, ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Does 'na ddim manylion pellach am ei gyflwr ond dywedodd y gwasanaeth ambiwlans nad oedd ei anafiadau yn rhai difrifol.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu ac maen nhw'n cynnal ymchwiliad.

Fe agorodd y warws ym mis Ebrill 2008 ac mae'r un maint â 10 cae pêl-droed.

Dyma un o bedair canolfan ddosbarthu a'r mwya gan y cwmni yn y DU.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific