British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 17:59 GMT 18:59 UK
Gweld cynlluniau i adfywio dinas

Argraff artist o ardal yr orsaf bysiau
Argraff artist o ardal yr orsaf bysiau

Mae'r cynlluniau i drawsnewid canol dinas Bangor ac i "adfywio" y stryd fawr wedi cael eu dangos i'r cyhoedd.

Dywed Cyngor Gwynedd y gallai'r prosiect "gryfhau" canol y ddinas.

Fe fydd llifeiriant y traffig yn cael ei newid, symud yr orsaf bysiau a gosod wyneb newydd ar y palmentydd yn rhan o'r prosiect £3.5 miliwn.

Cymysg iawn oedd y farn gan aelodau o'r cyhoedd oedd yn edrych ar y cynlluniau mewn hen siop wag yng nghanol y ddinas.

Gwenithfaen a llechen Gymreig fydd yn cael ei ddefnyddio fel wynebu palmentydd ac fe fydd 'na atyniad dwr o gloc y dref at yr orsaf bysiau presennol hefyd yn rhan o'r cynlluniau.

Er bod 'na opsiwn i symud yr orsaf bysiau does 'na ddim lleoliad newydd wedi ei neilltuo.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, bod y cyngor eisiau gwneud popeth posib i "hybu'r cwmnïau lleol a'r siopau stryd fawr".

Gwaith sylweddol

"Fe fydd y cynllun yn caniatáu i ni sicrhau bod canol y ddinas yn gryfach nag erioed gyda gwell cysylltiadau drwy'r ddinas i fwrlwm y stryd fawr."

Mae'r cynllun wedi ei selio ar yr hyn mae'r bobl a'r busnesau lleol eisiau ei weld, ychwanegodd.

Dywedodd y cynghorydd Dewi Lewis, sy'n gyfrifol am yr economi a'r gymuned ar y cyngor, bod 'na waith sylweddol i'w wneud.

"Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn sicrhau'r gwelliannau sydd eu hangen i adfywio canol dinas Bangor," meddai.

Argraff artist o'r atynid dwr a'r cloc
Atyniad dwr ger cloc y dref

Yn ogystal â'r Stryd Fawr mae Parc y Coleg hefyd yn cael ei drawsnewid yn ardal gymunedol.

Mae'r ardal rhwng Lon y Cariadol a hen Theatr Gwynedd.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fodolaeth," meddai Dena Jones a oedd yn edrych ar y cynlluniau.

"Doeddwn i ddim yn ei ddefnyddio ond dwi ddim yn gweld dim yn y cynlluniau fyddai yn fy nennu yna.

"Dwi'n meddwl bod rhaid canolbwyntio ar y stryd fawr, er mae'n siwr y byddai'n le braf i rai a phlant," ychwanegodd.

Mae modd gweld yr arddangosfa yn Uned 2, (hen siop Superdrug) Canolfan Siopa Deiniol tan Orffennaf 18 rhwng 11am a 4pm cyn y bydd yn symud i Eglwys Gadeiriol Bangor rhwng Gorffennaf 20-24.

Mae Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon yn casglu sylwadau ar yr opsiynau i'r Stryd Fawr a Phrifysgol Bangor sy'n derbyn y sylwadau am Barc y Coleg.



HEFYD
Chwalu cyn codi canolfan £32m
21 Ebr 06 |  Newyddion
Dymchwel adeiladau coleg Bangor
29 Ion 04 |  Newyddion
Siop M&S yn hwb i Fangor
28 Hyd 03 |  Newyddion
Fferyllfa ar hen safle Woolworths
04 Ebr 09 |  Newyddion
Cyhoeddi cynlluniau theatr
29 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific