Y bwriad oedd codi ffordd newydd i leihau tagfeydd ar yr M4
|
Fydd ffordd £1 biliwn i liniaru trafnidiaeth yr M4 ddim yn cael ei hadeiladu oherwydd y gost ond fe fydd 'na fesurau i geisio gwella mynediad i Faes Awyr Rhyngwaldol Caerdydd. Dyna oedd y prif gyhoeddiadau gafodd eu gwneud gan ddirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones. Roedd Mr Jones yn cyhoeddi y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol cyntaf a oedd yn ceisio gwireddu gweledigaeth Cymru'n Un o greu "system drafnidiaeth fodern a chynaliadwy i Gymru". Ond oherwydd na fyddai'r ffordd newydd o Fagwyr i Gas-bach yn codi'r cyllid angenrheidiol fe benderfynwyd peidio bwrw ymlaen a'r cynllun. Mae'r penderfyniad wedi ei feirniadu gan y Ceidwadwyr a CBI Cymru sy'n credu y bydd yn ergyd i'r economi. Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai arian cyhoeddus ac arian o'r sector breifat yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun a fyddai'n cynorthwyo'r problemau traffig ar y draffordd. Byddai tollau wedyn yn ad-dalu rhan o'r buddsoddiad. Roedd disgwyl y byddai'r ffordd wedi agor yn 2013. Yn 1998 yr amcan bris am y ffordd oedd £340 miliwn sydd wedi codi erbyn hyn i'r £1 biliwn. Ond gan na fydd yr arian yn cyfateb i'r gost fe wnaethon nhw benderfynu peidio bwrw mlaen gyda'r cynllun. Dydd Mercher fe gyhoeddodd Mr Jones gynlluniau sy'n rhan o gynllun pum mlynedd y llywodraeth. Dim ffordd newydd Fe wnaeth gyhoeddi y bydd 'na fesurau amrywiol "fforddiadwy a chynaliadwy" o ran mynediad i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn hytrach na datblygu ffordd newydd. Dywedodd fod costau amgylcheddol ac economaidd yn golygu nad oes modd codi ffordd newydd i liniaru'r M4. "Yn hytrach, rwy'n cyhoeddi cyfres o gynlluniau i wella diogelwch a maint y ffyrdd presennol, cynnig dewis arall o ran ceir a rhaglen o deithio personol ar draws de Cymru." Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu gwasanaeth bws penodol i'r maes awyr, gwasanaeth trên amlach a gwella diogelwch i ffordd yr A4226. Dywedodd Mr Jones ei fod wedi gwrando "yn ofalus" ar yr holl farn ac mai'r ffordd mwya effeithiol i wella'r mynediad oedd "cyfres o fesurau cynaliadwy". "Fe fyddwn yn cydweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i wella diogelwch yr A4266, sy'n fynediad pwysig i'r maes awyr. Yn ychwanegol at y cyhoeddiadau yma dywedodd Mr Jones bod rhaid gweithio tuag at system drafnidiaeth "rhad-ar-garbon, lle gall pobl ddewis ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy o deithio". Economi Fe fydd y llywodraeth yn buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio newydd. "Drwy ein rhaglen Trefi Teithio Cynaliadwy byddwn yn buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio newydd, ac mewn cysylltu'r rhai sy'n bodoli eisoes," meddai Mr Jones. "Mewn perthynas â'r rhwydwaith ehangach, mae gennym ni gynlluniau i wella'r cyfleusterau ar gyfer beiciau ar drenau, mewn gorsafoedd ac mewn trefi a dinasoedd." Ychwanegodd y bydd gwasanaethau bysiau a rheilffordd Cymru yn gwella a bod 'na well mynediad i'r gwasanaethau yma. Mae'r Ceidwadwyr wedi disgrifio'r cyhoeddiadau ynglŷn â'r M5 a'r maes awyr fel rhai "siomedig". "Mae'r penderfyniad i beidio â darparu ffordd i liniaru traffig ar yr M4 yn golygu nad oes modd delio gyda'r tagfeydd yn ardal Casnewydd, " meddai David Melding, llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi. "Ac mae'r penderfyniad i beidio â chreu ffordd mynediad i'r maes awyr yn golygu na fydd Y Barri yn cael ei wasanaethu gan ffordd fodern a fydd yn gyswllt i economi ehangach Caerdydd." Mae AS Llafur Bro Morgannwg, John Smith, hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad sy'n "anystyriol" i ddyfodol economi Cymru. Dywedodd David Rosser, cyfarwyddwr CBI Cymru, bod hwn yn ddiwrnod "trist iawn" i economi Cymru. "Yr M4 ydi'r brif wythïen sy'n bwydo calon economi Cymru sy'n cael ei thagu." Dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru bod y cynllun i godi traffordd chwe lon drwy wastadoedd Gwent wedi methu oherwydd yr hinsawdd economaidd.
|