British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 16:01 GMT 17:01 UK
Ymddiheuriad gan y Prif Weinidog

Rhodri Morgan
Fe wnaeth Rhodri Morgan ymddiheuro am "gamarwain"

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi gorfod ymddiheuro am fod gweision sifil wedi hedfan mewn seddau dosbarth cynta.

Roedd wedi gwadu bod hyn yn wir.

Dydd Mawrth roedd wedi dweud bod honiad y Democratiaid Rhyddfrydol yn "gelwydd".

Nos Lun datgelwyd fod gweision sifil sy'n hyrwyddo busnesau Cymreig dramor wedi gwario bron £750,000 y llynedd wrth ddefnyddio cardiau credyd Llywodraeth y Cynulliad.

Y Democratiaid Rhyddfrydol gyhoeddodd fanylion am wariant gweision sifil sy'n gweithio i'r adain rhyngwladol ar ôl gwneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedon nhw fod y cyfan yn dangos fod yna "gyd-destun o wario heb ei reoli".

Dydd Mercher ysgrifennodd Mr Morgan at arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn ymddiheuro am ei chamarwain hi a'r cyhoedd.

Ymchwiliad

"Does dim rhaid i mi ddweud fy mod yn petruso am y wybodaeth ddiweddara sy wedi dod i law," meddai Mr Morgan.

"Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r Ysgrifennydd Parhaol i gynnal ymchwilid trwyadl i gyllid gwariant, a systemau monitro yr adain rhyngwladol.

"Bydd yr ymchwiliad yn cael ei arwain gan dîm o'r tu allan i Lywodraeth y Cynulliad."

Gwnaeth Mr Morgan ei sylw ar ôl i dystiolaeth ddod i'r amlwg fod o leiaf dau aelod o staff sy'n gweithio yn Efrog Newydd wedi hedfan ar docynnau dosbarth cyntaf.

Roedd Geraint Jones, pennaeth Swyddfa Efrog Newydd, wedi teithio dosbarth cynta gyda Virgin America o Efrog Newydd i Los Angeles yn Chwefror 2009.

Cafodd £1,302.99 ei dalu ar gerdyn credyd pedwar diwrnod cyn iddo hedfan.

Ar yr un cerdyn, dyddiau'n ddiweddarach, cafodd swm o £1,475.92 ei dalu i westy'r Hyatt Regency yn Los Angeles.

Ym mis Tachwedd 2008 roedd swyddog arall, Christopher Williams, wedi teithio ar docyn dosbarth cynta tair gwaith o fewn yr Unol Daleithiau.

Dellir fod swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn am gadarnhad ysgrifenedig oddi wrth yr adain ryngwladol nad oedd tocynnau dosbarth cyntaf wedi eu defnyddio, cyn i Mr Morgan feirniadu'r Democratiaid Rhyddfrydol.



HEFYD
Cwmni ceir: 'Cam positif ymlaen'
20 Hyd 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific