Cyrhaeddodd diweithdra 100,000 yng Nghymru fis Rhagfyr
|
Fe wnaeth nifer y di-waith yng Nghymru ostwng o 1,000 yn y tri mis hyd at Fai i 107,000. Dyma'r unig ran o'r DU i ddangos cwymp. Yn y DU gyfan, codi wnaeth diweithdra o 281,000 i bron i 2.4 miliwn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, bod y ffigyrau yn "dangos arwyddion o wytnwch" ar gyfer economi Cymru. Rhybuddiodd Llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru, Cheryl Gillan AS, bod y "gostyngiad bychan" mewn diweithdra yng Nghymru "ddim yn achos dros fod yn hunanfoddhaol" a bod "problemau gwaelodol yn dal i barhau". Mae tua 107,000 o bobl heb waith yng Nghymru, neu 7.5%, sydd o dan gyfradd y DU o bobl ddi-waith o 7.6%. 'Gogwydd calonogol' Fis diwethaf fe arhosodd ffigyrau Cymru yr un peth. "Tra bod y dirwasgiad byd-eang heb ddod i ben eto, mae'r ffigyrau yma'n dystiolaeth bod economi Cymru yn dangos arwyddion o wytnwch," meddai Mr Morgan. "Tra bod data swyddi misol a chwarterol yn gallu bod yn gyfnewidiol, mae'r ffigyrau diweddaraf yma'n parhau gogwydd calonogol dros y tri mis diwethaf, pan na fu newid o ran diweithdra yng Nghymru."
Dywedodd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cydweithio'n agos gyda "busnesau, bancwyr, undebau a sefydliadau eraill "er mwyn sicrhau bod y dirwasgiad mor fyr â phosib". "Rydym wedi cyflwyno mesurau ymarferol ac effeithiol i gefnogi unigolion a chynorthwyo busnesau yng Nghymru i ddelio gyda'r dirwasgiad, gan gynnwys ein rhaglen ProAct, sydd wedi cynorthwyo i atal 4,487 o unigolion ar draws 76 cwmni rhag ymuno â'r ffigyrau yma." Ond dywedodd Ms Gillan bod yr economi Gymreig yn parhau'n wan "gyda "phroblemau gwaelodol". "Tra'n bod yn croesawu'r gostyngiad bychan mewn diweithdra yng Nghymru nid yw'n achos o fod yn hunanfoddhaol nac yn awgrymu bod hyn yn ddechrau ar adferiad i'r economi," meddai. "Mae yna o hyd 31,000 yn llai o bobl yn gweithio yng Nghymru heddiw na'r amser yma llynedd." Pwysleisiodd Ms Gillan y nifer mawr o bobl s'n cael eu cyfrif yn economaidd anactif. 'Wynebu'r storm' Nid oes ganddyn nhw swydd ond nid ydyn nhw'n chwilio am un, nac ar gael i weithio, ac nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y ffigyrau diweithdra. "Mae'r gyfradd economaidd anactif yn parhau i godi, gan gyfrif am bron i chwarter o'r boblogaeth sy'n gweithio - sy'n uwch na phob rhan o'r DU heblaw Gogledd Iwerddon," dywedodd Mrs Gillan. "Mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn os yw Cymru i ffynnu yn y dyfodol." Rhybuddiodd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd weinidogion llywodraeth y cynulliad rhag bod yn rhy hunanfoddhaol. Dywedodd eu llefarydd economaidd Jenny Randerson AC, bod 'na don arall o golledion swyddi mewn diwydiant a chynhyrchu ac rwy'n dychmygu bod cyfanswm y ffigyrau eisoes wedi cropian yn ôl i fyny" ers mis Mai. "Mae angen o hyd i lywodraeth y cynulliad wneud mwy i symleiddio ei gefnogaeth i fusnesau, esmwytho baich trethiant ar gwmnïau bychan ac annog cwmnïau i wynebu'r storm yn hytrach na thynnu allan o Gymru'n gyfan gwbl."
|