British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 11:01 GMT 12:01 UK
Hartson: Canser yn lledu i'w ysgyfaint

John Hartson ar l sgorio i Gymru
Daeth ei yrfa ryngwladol i Gymru i ben yn 2006

Cyhoeddwyd fod canser y pêl-droediwr John Hartson, 34 oed, wedi lledu i'w ysgyfaint.

Mae'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth iechyd ei fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty,

"Fe gafodd John Hartson ei symud o Ysbyty Singleton i Ysbyty Treforys nos Fawrth lle y cafodd driniaeth frys i leihau'r pwysau ar ei ymennydd," meddai'r llefarydd.

"Yn anffodus, mae'r canser wedi ei ganfod yn ei ysgyfaint.

"Bydd y radiotherapi a'r cemotherapi yn ailddechrau cyn gynted â phosib."

Dechrau'r wythnos cadarnhawyd fod ganddo ganser y ceilliau a oedd wedi lledu i'w ymennydd.

Dywedodd ei deulu ddydd Llun: "Mae'r teulu i gyd a ffrindiau John yn gwneud popeth posib i'w gefnogi ac rydyn ni'n gweddïo y bydd yn gwella'n llwyr.

"Mae'n cael gofal ardderchog yn yr ysbyty wrth iddo ddechrau ei driniaeth.

"Dyn teulu yw e ac rydyn ni'n gwerthfawrogi'r negeseuon o gefnogaeth gafodd eu derbyn eisoes."

Fe chwaraeodd Hartson i dimau Luton Town, Arsenal, West Ham United a Coventry City cyn symud i Celtic.

Pêl-droediwr y Flwyddyn

Cafodd ei enwi'n Bêl-Droediwr y Flwyddyn yng Nghymru yn 1998 a 2001.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ym mis Mawrth 1995 ym Mwlgaria ac fe wnaeth o gynrychioli ei wlad 51 o weithiau a sgorio 14 o goliau.

Daeth ei yrfa ryngwladol i ben yn annisgwyl ym mis Chwefror 2006 wrth iddo gyhoeddi ei fod yn canolbwyntio ar chwarae i'w glwb.

"Rwy'n teimlo'n falch bob tro rwy'n gwisgo crys Cymru a bydd 'da fi atgofion melys am 'y nghyfnod i gyda'r tîm cenedlaethol," meddai wrth ymddeol.

Yn Gymro Cymraeg, fe gafodd ei fagu yn Y Trallwn, Llansamlet, ger Abertawe.

Yr unig siom iddo na chafodd gyfle i chwarae i dîm Abertawe.

Fe wnaeth ei dad Cyril chwarae i Dîm Pêl-droed Llanelli yn y 1970au.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific