British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 11:56 GMT 12:56 UK
Cau safle cerflun £135,000

Y cerflun 'Dechrau a Diwedd'
Mae'n cael ei alw yn "Losin Polo" gan drigolion lleol

Does dim modd i bobl fynd yn agos at gerflun newydd sy'n rhan o brosiect celf gwerth £135,000 oherwydd ofnau am iechyd a diogelwch.

Cafodd y cerflun, Dechrau a Diwedd, ei ddadorchuddio ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, fis Mai ynghyd â dau waith celf arall gynlluniwyd i ddathlu llwybr Clawdd Offa.

Does dim modd mynd at sylfaen y cerflun nawr wedi i ddynes gwympo dros y blociau marmor sydd ar ei waelod.

Dywed Cyngor Tref Prestatyn ei bod yn gweithio gyda'r cynllunydd a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i ddod o hyd i ateb digonol.

Yn cael ei alw yn "Losin Polo" gan rai trigolion lleol, mae'r cerflun i'w weld ger y Traeth Canolog.

Dioddef anaf

Dywedodd Nigel Acott, Clerc y Dref: "O fewn ychydig wythnosau o agor y safle i'r cyhoedd cawsom adroddiad am ddynes yn syrthio a dioddef anaf.

"Bu'n rhaid i ni gau'r safle wedyn".

Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio ar yr yn adeg â dau waith celf arall, gan gynnwys helmed Rufeinig fawr grëwyd gan y cwmni gynhyrchodd setiau ar gyfer gwaith animeiddio Wallace a Gromit.

Cafodd y mwyafrif o'r cyllid ei ddarparu gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych ei bod yn ceisio sefydlu'r hyn ddigwyddodd "a'r hyn yr allwn ei wneud amdano".



HEFYD
Y gelfyddyd o ddenu ymwelwyr
01 Ion 08 |  Newyddion
Cerflun unigryw ar ben y bryn
16 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific