British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 09:31 GMT 10:31 UK
Davies i ymladd Blaenau Gwent

Alun Davies AC
Alun Davies fydd yr ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad

Mae'r AC Alun Davies wedi ei ddewis gan Lafur i ymladd sedd Blaenau Gwent ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011.

Yn etholiad 2007 roedd gan yr aelod Annibynnol Trish Law fwyafrif o 5,357 dros yr ymgeisydd Llafur.

Ar hyn o bryd mae Mr Davies yn AC Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ymhlith y rhai oedd yn ymgeisio am yr enwebiad llafur oedd y cyn weinidog Alun Pugh.

Dywedodd Mr Davies, sy'n enedigol o Dredegar, ei fod yn falch o ennill yr enwebiad.

"Nawr yw'r amser i Lafur Cymru ymladd yn ôl ym Mlaenau Gwent.

"Mae gennym stori dda i'w hadrodd a byddaf yn arwain ymgyrch bositif wedi ei seilio ar y budd o gael AC Llafur i gymunedau a busnesau Blaenau Gwent."

Fe wnaeth Mrs Law ddal ei gafael ar sedd etholaeth Blaenau Gwent yn etholiadau 2007 ar ôl ennill y sedd mewn isetholiad ar ôl marwolaeth ei gŵr Peter Law yn 2006.

Llwyddodd i gynyddu'r mwyafrif gyda 54% o'r bleidlais yn yr etholaeth a fu unwaith yn sedd fwyaf diogel Llafur yng Nghymru.

Aelod annibynnol, Dai Davies, sydd hefyd yn cynrychioli'r sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ymosod ar AC 'anweledig'
28 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific