Fe gafodd Fedal TH Parry Williams yn Eisteddfod Machynlleth yn 1981
|
Bu farw Emrys Jones, Penbont, Llangwm, yn 88 oed wedi salwch byr. Roedd yn un o garedigion yr iaith Gymraeg, yn ganwr gwerin a phenillion. Bu'n ysgrifennydd Eisteddfod Llangwm ger Corwen am fwy na 50 mlynedd, yr Eisteddfod yr oedd ei dad wedi ei sefydlu. Ei waith pob dydd oedd gwerthwr amaethyddol a phrofwr llaeth. Derbyniodd Fedal TH Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth yn 1981 am ei gyfraniad i'w fro ac i Gymru. 'Ffyddlon iawn' Dywedodd y Parchedig W J Edwards, cyfaill oes: "Roedd yn ŵr annwyl a ffyddlon iawn, ac yn deyrngar i'w ffrindiau. "Dyn diwylliedig iawn yn ystyr orau'r gair, yn cwmpasu capel a chôr a cherdd dant ac fe wnaeth e hyfforddi llawer iawn o bobl. "Roedd e'n poeni am y mewnlifiad yn Llangwm a'r ardal, ond roedd e'n ddyn optimistaidd. "Un o'r hen do, yn ffyddlon i'r Orsedd a'r Eisteddfod. Cyfrannodd yn helaeth a chyfoethog". Roedd yn ymhyfrydu yn y ffaith ei fod wedi bod i bron pob Eisteddfod yr Urdd. 'Rhamant' Pan gafodd ei holi yn 2008 dywedodd: "Mae gen i gof o'r Steddfod gyntaf un yng Nghorwen, gan ei bod hi ar garreg drws i ni yma yn Llangwm. "Mi oedd Mam wedi rhoi bathodyn bychan ar boced fy mrest i gan fod ganddi hi gymaint o ofn i mi fynd ar goll yng nghanol yr holl blant eraill oedd yno. "Ac mi oedd hi'n andros o beth i fachgen bach 8 oed gael mynd i Steddfod fawr fel hyn. "Roedd yna ramant fawr yn perthyn i'r holl beth." Dawnus Cafodd ei eni a'i fagu mewn tyddyn a bu'n byw ynddo ar hyd ei oes. Roedd yn fab i'r tenor dawnus, David Jones, a'i fam oedd yn mynd ag Emrys i eisteddfodau lleol a mawr. Enillodd lawer o wobrau yng nghystadleuaeth Unawd Cerdd Dant ac Unawd Penillion, gan gynnwys rhai yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd wedi cystadlu mewn eisteddfodau am fwy na 70 mlynedd. Cyfraniad Am flynyddoedd roedd yn hyfforddi unawdwyr a chorau Aelwyd Llangwm cyn Eisteddfod yr Urdd. Yn 2003 fe gafodd radd anrhydeddus MA oddi wrth Brifysgol Cymru oherwydd ei gyfraniad at y diwylliant Cymraeg. Yn 1997 cafodd y gyfrol Teulu, Bro a Thelyn ei chyhoeddi. Roedd hwn yn bortread o "ganwr gwerin a chynheilydd traddodiad" a'r awdur oedd Robin Gwyndaf o Amgueddfa Werin Cymru. Y cyhoeddwyr oedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.
|