British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 07:20 GMT 08:20 UK
Cylchgrawn i dynnu Sylw?

Rhai o gylchgronau Cymru
Mae cystadleuaeth agored am gefnogaeth bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru

Bydd rhifyn enghreifftiol o gylchgrawn Cymraeg newydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Cafodd Gwasg y Lolfa £5,000 i baratoi un rhifyn o gylchgrawn Sylw ar ôl i Gyngor Llyfrau Cymru roi grant blwyddyn i gylchgrawn Barn yn hytrach na'r tair blynedd arferol.

Un misolyn ym maes materion cyfoes fydd yn cael cynnig grant gan y Cyngor Llyfrau maes o law.

Mae 3,000 o gopïau o'r cylchgrawn materion cyfoes Sylw wedi eu hargraffu.

'Awdurdodol'

Dywedodd golygydd Sylw, Gwyn Jenkins: "Ein nod oedd creu cylchgrawn fyddai'n apelio at gynulleidfa'r unfed ganrif ar hugain.

"Cylchgrawn awdurdodol gyda diwyg proffesiynol, a lles Cymru yn brif agenda."

CYHOEDDIADAU
Golwg - £ 73,000
Y Cymro * - £ 18,000
Barn / Sylw- £ 80,000 (£5,000 o gyllideb 2008/09)
Taliesin - £30,000
Barddas - £24,000
Tu Chwith - £6,000
Y Traethodydd - £8,000
Cristion - £ 4,800Gair y Dydd - £2,400
Wcw - £ 36,000
Cip - £ 26,000
Y Selar * - £ 12,000
Lingo Newydd - £18,000
Y Wawr - £10,000
Llafar Gwlad - £7,000
Fferm a Thyddyn - £2,000
Y Casglwr - £1,500
Y Papur Gwyrdd **- £1,000
Cefnogaeth am 3 blynedd oni nodir yn wahanol

* Cefnogaeth am flwyddyn

** Grant Datblygu

Cyfanswm - £359,700

Mr Jenkins, a arferai weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yw awdur Prif Weinidog Answyddogol Cymru, y cofiant i Huw T Edwards a gyhoeddwyd yn 2007.

Mae rhifyn dwbl 100 tudalen o Barn sy'n cael ei olygu gan Vaughan Hughes a Menna Baines hefyd newydd gyrraedd y siopau.

Ym mis Tachwedd fe wnaeth Gyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi grantiau gwerth £359,700 i helpu cyhoeddi 18 o gylchgronau Cymraeg yn ystod 2009/10.

Ynghylch Barn a Sylw dywedodd Cadeirydd y Panel Grantiau, Gareth Davies Jones, ym mis Tachwedd: "Gyda dau gais cryf yn cystadlu â'i gilydd, barn unfrydol y panel oedd bod rhaid pwyso a mesur y deunydd gorffenedig yn achos y naill gylchgrawn a'r llall a dod i benderfyniad ar ddiwedd proses drylwyr a amlinellir yn y llythyrau cynnig i'r ddau gyhoeddwr.

"Fel rhan o'r broses, bwriedir cael adborth gan ddarllenwyr a defnyddwyr.

"Ar ddiwedd y broses hon, cynigir grant i un misolyn ym maes materion cyfoes."

Mae cystadleuaeth agored am gefnogaeth bob tair blynedd gan y cyngor.



HEFYD
£359,700 i gylchgronau Cymraeg
28 Tach 08 |  Newyddion
Arian: Golwg yn ennill y frwydr
29 Mai 08 |  Newyddion
Cadw Golwg ar y we
08 Chwef 08 |  Newyddion
Papur Y Byd: 'Anferth o siom'
06 Chwef 08 |  Newyddion
£600,000 ar gyfer papurau
05 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific