Roedd Donna Marie Evans wedi dweud ei bod am adael ei gwr.
|
Mae dyn gafodd ei garcharu 11 mlynedd yn ôl ar ôl cyfadde iddo drywanu ei wraig i farwolaeth, yn apelio yn erbyn ei ddyfarniad. Cafodd John Evans, 64, o Fae Cinmel, Sir Conwy, ei garcharu yn 1998 am drywanu ei wraig Donna, oedd yn 16 mlynedd yn iau nag ef. Mae o'n dweud iddo bledio'n euog ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol anghywir. Yn ôl ei dim cyfreithiol doedd o ddim yn ei iawn bwyll pan ddigwyddodd y drosedd. Adolygiad Mae disgwyl i'r gwrandawiad yn y Llys Apêl, Llundain, bara am dri diwrnod. Roedd Mrs Evans wedi gadael y cartre teleuol gan ddweud ei bod am gael ysgariad. Ar ôl iddi adael roedd Evans wedi ceisio lladd ei hun. Pan ddigwyddodd y drosedd fe aeth i'w chartre newydd a'i thrywanu 11 o weithiau. Yna fe drywanodd ei hun 30 o weithiau. Cafwyd hydd iddo gan y gwasanaethau brys. Roedd yn anymwybodol ac yn gorwedd wrth ochr ei wraig. Plediodd yn euog i lofruddiaeth yn 1998 a chafodd ei garcharu am oes. Cafodd apêl yn erbyn y dyfarniad ei wrthod tair mis yn ddiweddarach. Ond nawr mae'r corff sy'n ymchwilio i achosion o anghyfiawnder posib, wedi galw am adolygiad. Dywedodd James Wood QC ar ran Evans ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol anghywir ar y pryd. Cafodd gyngor i bledio'n euog i lofruddiaeth, ond byddai'n bosib iddo fod wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar sail ei fod wedi ei brofocio, meddai Mr Wood. "Mae yna dystiolaeth o ddatganiadau neu sylwadau profoclyd ac yna cyfnod o golli hunan reolaeth."
|