British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009, 16:52 GMT 17:52 UK
Cyngor: 'Angen camau ar frys'

Swyddfeydd Cyngor Môn
Bydd y cyngor yn trafod yr argymhellion ar Orffennaf 20

Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd i geisio gwella'r ffordd mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei reoli.

Dyna oedd cyhoeddodd Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Brian Gibbons, wrth ymateb i adroddiad damniol ynglŷn â'r ffordd mae'r awdurdod wedi cael ei redeg.

Daw hyn ar ôl blynyddoedd o drafferthion o fewn y cyngor a gwrthdaro rhwng cynghorwyr a swyddogion.

Yn ôl ymchwiliad swyddogol dywed y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymyrryd er mwyn gwella sut mae cyngor sir yn cael ei reoli.

Roedd Swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol wedi dweud bod gan y cyngor "hanes hir o beidio â chael ei reoli'n addas a bod hyn wedi cael effaith andwyol ar sut mae'n gwneud ei waith".

Yn ôl yr adroddiad, roedd gwrthdaro rhwng personoliaethau yn rhannol ar fai.

Mae'r gwrthdaro, meddai'r archwilydd, wedi arwain at fwlch rhwng yr arweinwyr gwleidyddol a'r rheolwyr, gan atal y tîm rheoli corfforaethol rhag cyflawni ei rôl.

Dywedodd y cyngor eu bod yn derbyn y casgliadau a'r saith argymhelliad ar gyfer gwella'r sefyllfa.

Dydd Mercher mewn ymateb i'r adroddiad yn y Senedd dywedodd Mr Gibbons ei fod yn croesawu'r adroddiad ond yn gresynnu'r fath ganlyniad.

Dydi Mr Gibbons ddim eto wedi penderfynu sut yn union y bydd o'n gweithredu'r prif argymhellion.

'Problemau mewnol'

Yn ôl John Stevenson, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, hwn yw'r adroddiad cyntaf o'i fath yng Nghymru.

"Mae yna nifer o enghreifftiau o ymyrraeth mewn adrannau penodol, er enghraifft yn ddiweddar gyda'r gwasanaethau cymdeithasol yn Abertawe a chyn hynny addysg yn Sir Ddinbych," meddai.

"Ond hwn yw'r tro cynta i adroddiad ddelio'n uniongyrchol â sut mae cyngor cyfan yn cael ei reoli gan gynghorwyr a staff cyflogedig."

Yn ei adroddiad dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, fod "angen mynd i'r afael â phroblemau difrifol, cyson yng Nghyngor Sir Ynys Môn ar unwaith os yw am adfer ei enw da."

Oherwydd "hanes" diweddar y cyngor, meddai, ni fyddai'r newidiadau angenrheidiol yn digwydd oni bai bod ymyrraeth o'r tu allan.

ARGYMHELLION
Diwygio trefniadau gwleidyddol o fewn 12 mis, gan osod blaenoriaethau a chyfeiriad strategol clir
Ailstrwythuro'r uwchreolwyr o fewn chwe mis i fynd i'r afael â gwendidau arweinyddiaeth gorfforaethol
Cymryd camau ar unwaith i adfer ymddiriedaeth rhwng rhai aelodau a rhai uwchswyddogion
Gwella penderfyniadau cynllunio o fewn tri mis
Gwella'r gwaith o gysylltu â'r cyhoedd erbyn diwedd 2009
Gwella'r ffordd y mae'n ymateb i gwynion a hynny erbyn Mawrth 31 2010
Gwneud trefniadau i atgyfnerthu gwasanaethau corfforaethol o fewn chwe mis
Ffynhonnell: Archwilydd Cyffredinol

"Dyma'r rheswm fy mod yn galw ar Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad i ymyrryd a rhoi'r cymorth a'r her allanol angenrheidiol sydd ei angen ar Gyngor Sir Ynys Môn i'w wneud yn gadarnach ac yn fwy llwyddiannus," meddai.

Yn ei adroddiad dywedodd Mr Colman fod yna nodweddion da i'w gweld ym mherfformiad llawer o wasanaethau.

Ond, meddai, roedd yna broblemau mewnol.

Roedd y rhain yn cynnwys hunanreoleiddio gwan, ymddygiad amhriodol a gwrthdaro yn y Cyngor ers iddo gael ei sefydlu ym 1996.

Dywed yr adroddiad fod ceisio datrys y problemau wedi "gwastraffu llawer o ymdrech ac yn tynnu sylw pobl, yn cynnwys Rheolwyr Gyfarwyddwyr olynol, oddi ar y mater pwysig o roi gwir gyfeiriad i'r Cyngor."

Noda'r adroddiad: "Mae'r mwyafrif o gynghorwyr yn meddu ar gymhelliant da o ran busnes y Cyngor ac mae'n bwysig cydnabod eu cyfraniad.

"Ond nid oedd eu hymdrechion yn ddigon i wneud iawn am ymddygiad gwael nifer fach o gynghorwyr dros gyfnod maith."

Dywedir fod strwythurau gwan grwpiau gwleidyddol yn cyfrannu at ddiffyg rheolaeth

"Mae hunanreoleiddio gwan hefyd wedi creu diwylliant sydd nid yn unig yn goddef ymddygiad amhriodol, ond sy'n ei wobrwyo ym marn rhai."

Mae hunanreoleiddio gwan hefyd wedi creu diwylliant sydd nid yn unig yn goddef ymddygiad amhriodol, ond sy'n ei wobrwyo ym marn rhai
Jeremy Colman

Mewn ymateb i sylw'r Archwilydd cyffredinol dywedodd Richard Parry Jones, rheolwr gyfarwyddwr dros dro Cyngor Môn, ei fod yn derbyn fod tensiynau mewnol rhwng lleiafrif o gynghorwyr dros gyfnod maith wedi effeithio'r awdurdod.

"Mae'r tensiynau yma wedi sugno egni ac adnoddau'r cyngor mewn cyfnod economaidd anodd," meddai.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio y byddai'r adroddiad yn ysgogi "gwell cydweithio er mwyn sefydlu ethos gwell a mwy o hunanreolaeth o fewn y cyngor."

Ychwanegodd fod y feirniadaeth yn un teg ond roedd hefyd yn falch nad oedd yr adroddiad yn feirniadol o'r gwasanaethau oedd yn cael ei gynnig i drigolion y sir.

Dywedodd fod y cyngor yn croesawu'r cyfle i gydweithio gyda Swyddfa'r Archwilydd a Llywodraeth y Cynulliad.

"Mae'r argymhelliad i sefydlu bwrdd allanol i fonitro'r cynllun gwaith yn un fydd o fudd mawr i gynghorwyr a swyddogion."

Bydd cyfarfod arbennig o'r cyngor llawn yn cael ei gynnal ar Orffennaf 20 er mwyn ystyried argymhellion yr adroddiad.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod wedi derbyn copi o'r adroddiad ac y bydden nhw'n ei astudio'n fanwl.

"Rydym yn derbyn fod yr adroddiad yn feirniadol o'r cyngor a bod angen gweithredu ar frys," meddai llefarydd.



HEFYD
Arweinydd yn ymddiswyddo
29 Ebr 09 |  Newyddion
Swyddog yn cwyno am gyngor
03 Chwef 09 |  Newyddion
Ethol arweinydd newydd
05 Mai 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific