British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009, 16:32 GMT 17:32 UK
Pryderon am radio digidol

BBC Cymru
Mae'r arolwg yn canmol nifer o raglenni'r gorfforaeth

Mae arolwg Cyngor Cynulleidfa Cymru wedi dweud nad yw 70% o siaradwyr Cymraeg yn gallu derbyn Radio Cymru ar DAB.

Ond mae'r arolwg blynyddol yn canmol y gorfforaeth am safon uchel nifer o raglenni yn ystod 2008-2009.

Ymhlith y rhaglenni sy'n cael eu canmol mae Coal House at War a Doctor Who, Torchwood a Young Musician of the Year.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at broblemau derbyn DAB mewn nifer o ardaloedd.

Yn ôl yr arolwg, dyw Radio Cymru na Radio Wales ddim ar gael ar DAB i hanner y boblogaeth.

Er hyn, fe groesawodd y Cyngor Cynulleidfa yr arolwg a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC.

Roedd y sylw ar raglenni rhwydwaith i newyddion o Gymru a materion datganoledig wedi cael ei feirniadu.

Tâl bonws

Dywedodd y cyngor ei bod yn bwysig fod pobl gwledydd Prydain yn gweld a chlywed llawer yn fwy o'r Gymru gyfoes ar rwydwaith y BBC.

• Yn y cyfamser, mae'r BBC wedi cyhoeddi na fydd taliadau bonws yn cael eu rhoi i 10 o benaethiaid.

Fe ddaeth cyhoeddiad cadeirydd Ymddiriedolaeth y Gorfforaeth Syr Michael Lyons wrth i adroddiad blynyddol y BBC yn ganolog gael ei gyhoeddi.

Mae'r gorfforaeth yn ceisio arbed £1.7 biliwn dros y pedair blynedd nesaf.



HEFYD
Gwrthod cynllun BBC Lleol
21 Tach 08 |  Newyddion
BBC: 'Datganoli mwy i Gymru'
15 Hyd 08 |  Newyddion
'Mwy o lais' i BBC Cymru
07 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific