Y cwmni'n beio gostyngiad ym mhris caws a diffyg cyflenwyr llaeth
|
Fe fydd 40 o swyddi'n diflannu mewn ffatri gaws. Dywedodd cwmni Saputo y byddai'r swyddi, bron hanner cyfanswm y gweithwyr, yn diflannu yn ffatri Saputo yng Nghastell Newydd Emlyn. Yn y ffatri maen nhw'n cynhyrchu caws mozzarella. Mae'r cwmni wedi beio gostyngiad ym mhris caws a diffyg cyflenwyr llaeth. Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, y byddai hi'n gofyn am drafodaethau brys. "Dwi'n gofidio'n fawr fod gweithwyr Saputo'n cael eu diswyddo," meddai. "Mae'r Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, wedi cysylltu â fi ac rydyn ni'n trefnu mynd i'r ffatri er mwyn trafod y sefyllfa â'r rheolwyr." Ym mis Mehefin penderfynodd 40 o ffermwyr na fydden nhw'n cyflenwi llaeth i Saputo am nad oedd y cwmni'n fodlon codi'r taliad o 19c y litr. Ym mis Mawrth 2007 prynodd Saputo'r ffatri ar ôl i'r perchnogion, Dansco, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Roedd y ddyled yn £6m. Drwy'r byd mae'r cwmni'n cyflogi 8,000 o bobol.
|