Mae'n bosib y gellid gwerthu'r pŵer i'r Grid Genedlaethol
|
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cynlluniau i godi ffatri fionwy fyddai'n troi gwastraff bwyd tri chyngor i mewn i bŵer. Maen nhw wedi prynu safle hen ladd-dy ym mhentref Waen ger Llanelwy ar ran Llywodraeth y Cynulliad sy'n hybu ail-gylchu gwastraff bwyd. Gallai'r ffatri, y mae'r cyngor yn ei thrafod ddydd Mawrth, drin tua 20,000 tunnell bob blwyddyn. Fe fydd modd defnyddio'r bionwy i gynhyrchu trydan neu wres neu fel tanwydd ar gyfer cerbydau. Mae'n bosib y bydd modd gwerthu'r pŵer i'r Grid Genedlaethol. 'Deunydd organig' Mewn cylchlythyr i drigolion lleol, dywedodd y cyngor y gallai'r ffatri ddefnyddio "deunydd organig fel gwastraff gwartheg, ieir a moch" yn ogystal â chardfwrdd a gwastraff bwyd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi'r arian i helpu awdurdodau lleol i gyflwyno cynlluniau casglu bwyd a gwastraff cegin ymyl palmant. Mae Sir Ddinbych eisoes wedi dechrau casglu gwastraff bwyd oddi wrth 40% o'i drigolion. O Ebrill 2012 ymlaen, nod Llywodraeth y Cynulliad yw bod dyletswydd statudol ar gynghorau gasglu ac ailgylchu gwastraff bwyd ar wahân. Eisoes mae'r llywodraeth wedi dweud mai eu dull dewisol o ailgylchu bwyd fydd drwy gyfleusterau treuliad anerobig fel yr un arfaethedig. Eplesu Proses yw treuliad anerobig lle mae mater organig yn cael ei dreulio gan facteria yn absenoldeb aer. Mae deunydd organig yn cael ei roi mewn treuliwr (cynhwysydd cynnes wedi ei selio heb aer) am hyd at 25 diwrnod. Bydd y deunydd yn eplesu ac yn cynhyrchu methan (tua 60%) a charbon deuocsid (40%). Dywedodd y cyngor fod Llywodraeth y Cynulliad wedi talu am y safle ac y bydden nhw'n talu costau cynnal a chadw. Ychwanegodd y cyngor na fyddai disgwyl penderfyniad terfynol tan 2010.
|