Y Fonesig Gillian Morgan fydd yn arwain yr adolygiad
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y bydd yn adolygu trefn talu treuliau i weision sifil i sicrhau ei bod yn "dryloyw ac yn cynnig gwerth am arian". Prif was sifil Cymru, y Fonesig Gillian Morgan, fydd yn arwain yr adolygiad. Nos Lun datgelwyd fod gweision sifil sy'n hyrwyddo busnesau Cymreig wedi gwario bron £750,000 y llynedd wrth ddefnyddio cardiau credyd Llywodraeth y Cynulliad. Dywedodd llefarydd ar ran y Fonesig Morgan: "Mae treuliau gwleidyddion a gweision sifil yn amlwg yn fater o ddiddordeb cyhoeddus ... "Rhaid i unrhyw dreuliau sy'n cael ei hawlio ar ran Llywodraeth y Cynulliad ddilyn rheolau cadarn o ran awdurdodi ac archwilio". 'Haeddu esboniad' Fe wariodd gweision sifil adain ryngwladol Llywodraeth y Cynulliad ddegau o filoedd ar deithiau awyrennau a gwestai moethus. Mae staff yr adain sy'n denu buddsoddiad tramor i Gymru yn gweithio mewn swyddfeydd yn Efrog Newydd, Hong Kong, Tokyo a Paris. Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod pob trethdalwr "yn haeddu esboniad." Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud bod rhaid i swyddogion geisio "elwa ar bob cyfle" i ddenu busnes i Gymru. Roedd nifer y swyddfeydd mewn gwledydd tramor, meddai, wedi gostwng yn ddiweddar. 108 o argymhellion Dechrau'r mis fe gafodd argymhellion adolygiad am sut y gall Aelodau'r Cynulliad hawlio cyflog a lwfansau teithio, llety, ariannu swyddfeydd etholaeth a staff cymorth eu cyflwyno i Lywydd y Cynulliad a'u cymeradwyo. Ymhlith y 108 o argymhellion mae torri'r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol San Steffan ar unwaith - a dileu nifer o daliadau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi. Yn ôl y costau gafodd eu cyhoeddi cyn hynny, roedd yr ACau wedi hawlio mwy na £230,000 ar forgeisi a rhent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a £50,000 am fwyd. 'Heb ei reoli' Y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cyhoeddi'r manylion am wariant gweision sifil sy'n hyrwyddo busnesau Cymreig ar ôl gwneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Maen nhw'n dweud fod y cyfan yn dangos fod yna "gyd-destun o wario heb ei reoli." Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod rhaid i bob cais am dreuliau ddilyn rheolau cadarn. Mae'r manylion yn ymwneud â 35 o gardiau credyd rhwng Mehefin 2008 a Mai 2009. Nod yr adain ryngwladol yw denu busnesau tramor i fuddsoddi yng Nghymru. Maen nhw hefyd yn ceisio creu cyfleoedd i fusnesau o Gymru farchnata dramor. Ymhlith yr arian gafodd ei wario oedd: - Mwy na £24,000 ar un cerdyn credyd gyda chwmni awyrennau Cathay Pacific;
- Y gwariant unigol mwyaf oedd £6,606 gan was sifil yn Hong Kong, gafodd ei dalu i Cathay Pacific;
- Yr un isa oedd 89c gan aelod o swyddfa Efrog Newydd. Mae'n debyg bod y taliad i dŷ bwyta McDonald's yn Abertawe;
- Cafodd bron £250 ei wario mewn yng nghaffi Starbucks mewn gwahanol wledydd.
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod y manylion yn ei gofidio. "Gan ein bod ni yng nghanol dirwasgiad, mae'n warthus gwybod fod swyddogion cyhoeddus yn hedfan mewn seddau dosbarth cynta, yn aros yn y gwestai mwyaf moethus, ac yn bwyta yn y bwytai gorau - wrth ddefnyddio cerdyn credyd. "Wrth gwrs, rhaid hyrwyddo Cymru dramor a dwi'n deall fod hynny'n costio arian. "Ond mae'r manylion yn awgrymu fod yna gyd-destun o wario arian ar gardiau credyd - a'i fod allan o reolaeth." Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "O ystyried natur eu gwaith, rhaid i'r gweision sifil deithio er mwyn ceisio elwa ar bob cyfle busnes posib." 30% yn is "Tra bod llai o swyddfeydd wedi golygu fod llai o arian yn cael ei wario ar swyddfeydd, mae wedi arwain at fwy o gostau teithio." Roedd y costau treuliau 30% yn is na'r hyn gafodd ei wario gan Asiantaeth Datblygu Cymru. Eleni mae'r adain ryngwladol wedi trefnu 37 o ymgyrchoedd masnachu i gwmnïau o Gymru. Mae hynny'n cynnwys taith ddiweddar i Washington DC - gyda chynrychiolaeth gan 80 o gwmnïau o Gymru. "... mae'n bwysig ein bod yn defnyddio pob cyfle i godi proffil Cymru a chreu cyfleon busnes. "Mae hynny'n arbennig yn wir yn ystod y dirwasgiad bydeang presennol."
|