British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009, 16:00 GMT 17:00 UK
Boddi: Ad-dalu £40,000

Matthew Marsden
Roedd Matthew yn ddwy oed

Mae rhieni bachgen dwy oed a foddodd mewn pwll mewn parc gwyliau ger Porthmadog yn 2004 yn gorfod ad-dalu £40,000 o iawndal a chostau.

Fe ddaeth tad Matthew Marsden o hyd i'w gorff ym Mharc Gwyliau Greenacres.

Roedd Philip Marsden a'i wraig Tracey o Fwcle, Sir y Fflint, wedi llwyddo i gael iawndal oddi wrth berchnogion y parc, Bourne Leisure.

Mae'r Llys Apêl wedi dileu'r gorchymyn talu iawndal wrth ddweud bod damweiniau yn gallu digwydd heb fod neb yn gyfrifol amdanyn nhw.

Ar ôl i'r cwmni apelio, dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus Stanley Burnton: "Roedd hwn yn achos trasig ac mae marwolaeth Matthew wedi bod yn ysgytwol i'r rhieni.

'Neb ar fai'

"Ond mae damweiniau yn gallu digwydd i blant bach heb i neb fod ar fai."

Dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus Moses: "Ni all dim y gall y llys hwn ei ddweud fesur dioddefaint dau riant cyfrifol a gofalus."

Nid oedd perchnogion y parc gwyliau yn euog o dorddyletswydd, meddai.

"Ar wahân i afael yn y ddau blentyn bob adeg tu allan i'r garafán, doedd dim mwy y gallai'r teulu ei wneud.

"Gall plant bach ddiflannu mewn amrantiad. Bydd parciau gwyliau yn beryglus i blant sydd ar eu pen eu hunain."

Yn y cwest cofnodwyd mai marw'n ddamweiniol wnaeth Matthew.

Cafodd yr iawndal ei ddyfarnu ym mis Rhagfyr 2008 ond cafodd ei gadw gan gyfreithwyr y teulu, GHP Legal, wedi i Bourne Leisure apelio'n syth.

Yswiriant

Bydd GHP Legal yn awr yn ad-dalu'r arian.

Roedd yr achos ar sail dim ennill, dim ffi ac fe fydd polisi yswiriant yn talu am y costau cyfreithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Greenacres: "Rydyn ni'n cydnabod penderfyniadau tri barnwr y llys apêl heddiw.

"Unwaith eto fe hoffen ni estyn ein cydymdeimlad i Philip a Tracey Marsden."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific