British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009, 16:20 GMT 17:20 UK
Treisio: Carchar o 15 mlynedd

Llys y Goron Abertawe
Cafodd George ei garcharu am 15 mlynedd

Cafodd dyn o Aberdaugleddau yn Sir Benfro ei garcharu am 15 mlynedd ar ôl treisio merch 11 oed.

Roedd Michael George, 43 oed, yn cydio'n dyn mewn Beibl wrth wrando ar y dyfarniad.

Yn Llys y Goron Abertawe roedd wedi dweud iddo gael rhyw gyda'r ferch ddwywaith.

Mynnodd fod hynny gyda'i chaniatâd hi pan oedd hi'n 16 oed.

Wrth gael ei holi gan yr heddlu roedd George wedi gwadu iddo gael rhyw o gwbl gyda'r ferch.

Yn y Llys dywedodd: "Fe ddywedodd hi ei bod hi'n 16 oed ac roeddwn i'n ei chredu hi."

Dywedodd yr erlynydd Geraint Walters fod George yn rhaffu celwyddau.

Fe honnodd ei fod yn actio er mwyn ceisio dylanwadu ar y rheithgor.

Dywedodd y ferch, sy'n 16 oed erbyn hyn, ei bod wedi ceisio ymladd yn erbyn George ond "ei fod yn rhy gryf".

Fe gafodd enw George ei roi ar restr troseddwyr rhyw a chafodd ei wahardd rhag gweithio â phlant.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific