British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009, 06:36 GMT 07:36 UK
Y dyn â'r 'ffydd ddiwyro'

Mynachlog Ynys Bur
Roedd y Brawd Robert yn flaenllaw yn y frwydr i achub y mynachdy

Bydd offeiriad roddodd y gorau i fywyd yn Llundain fwy na hanner canrif yn ôl er mwyn byw fel mynach ar Ynys Bŷr yn cael ei gladdu yno ddydd Mawrth.

Daeth y Brawd Robert O'Brien yn Abad Ynys Bŷr a chwarae rhan flaenllaw wrth achub y mynachdy rhag cael ei gau.

Llwyddwyd i ennill £379,000 o arian y Loteri Genedlaethol ynghyd â £170,000 o grant oddi wrth y llywodraeth.

Fe gafodd yr arian ei ddefnyddio i atgyweirio'r fynachlog oedd yn prysur ddadfeilio.

Y Brawd Robert, oedd yn enwog am ei farf mawr, gyflwynodd ddyfeisiadau o'r oes fodern, teledu a gwasanaeth band eang.

Bu Robert yn abad am 12 mlynedd yn ogystal â bod yn fwrsar, procuradur, rhwymwr llyfrau ac yn arbenigwr ar wneud jamiau.

'Ffydd ddiwyro'

Dywedodd yr abad presennol, y Tad Daniel: "Roedd yn berson hyfryd.

"Heb os, gallwn ni ddweud mai diolch i ffydd ddiwyro a gwaith diflino Robert y mae ein cymuned ni'n dal i fodoli."

Roedd y Brawd Robert yn un o 13 mynach Sistersaidd ar yr ynys sydd wedi bod yn gartref i'r mynachod am fwy na 1,500 o flynyddoedd.

Mae'r mynachod, sy'n byw mewn tawelwch y mwyafrif o'r diwrnod, yn cynnal eu hunain drwy werthu persawr cartref a siocled i ymwelwyr.

Fe gafodd y Brawd Robert, oedd yn 76 oed, strôc ar yr ynys wythnos diwethaf a marw mewn ysbyty ar y tir mawr.

Dywedodd y Tad Daniel: "Does dim dwywaith y byddwn ni yn ei golli, yn colli ei feddwl clir, ei synnwyr difrifwch, ei ymroddiad i weddi ac, yn arbennig, ei ddyfalbarhad yn darllen yr Ysgrythurau, yn Saesneg, Lladin, Groeg neu Hebraeg."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific