Cafodd yr heddlu orchymyn i ryddhau'r wybodaeth
|
Mae enghreifftiau o staff yr heddlu'n camddefnyddio gwybodaeth wedi dod i'r amlwg oherwydd ymchwiliad BBC Cymru. Yn wreiddiol, roedd Heddlu'r De wedi gwrthod cais y BBC o dan y Ddeddf Ryddid Gwybodaeth ynglyn ag achosion o'r fath ac achosion o wybodaeth gyfrinachol yn mynd ar goll. Maen nhw nawr yn dweud fod camddefnyddio gwybodaeth wedi digwydd 10 o weithiau dros gyfnod o dair blynedd. Cafodd yr heddlu orchymyn i ryddhau'r wybodaeth wedi i BBC Cymru apelio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r achosion yn cynnwys dau achos llys yn ymwneud ag aelodau o staff Heddlu'r De oedd wedi pledio'n euog i dorri'r Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth. Roedd y ddau wedi defnyddio systemau cyfrifiadurol heb ganiatâd. Yn euog Cafodd aelod staff ei erlyn am ddefnyddio "gwybodaeth am gyndroseddau" a "gwybodaeth yr oedd yr heddlu wedi ei chasglu". Fe blediodd y person yn euog i dri chyhuddiad cyn cael ei ryddhau'n ddi-amod. Ymddiswyddodd o'r heddlu wedi'r achos. Mewn achos arall fe ymddiswyddodd gweithiwr wedi i lys ei gael yn euog o ddefnyddio gwybodaeth heb ganiatâd ar bedwar achlysur. Ymddiswyddo Fe wnaeth trydydd aelod o staff ymddiswyddo cyn i wrandawiad mewnol gael ei gynnal. Roedd yn wynebu cyhuddiad o gasglu gwybodaeth bersonol am berson "anaddas". Fe wnaeth achosion eraill arwain at rybudd ffurfiol neu rybudd ysgrifenedig. Gofynodd BBC Cymru i bedwar o heddluoedd Cymru am fanylion 14 mis yn ôl. Heddlu'r De oedd yr unig un i wrthod gan ddweud y byddai'n costio gormod i ddarparu'r wybodaeth. 2,300 Wrth ddatgelu eu manylion nhw, dywedodd Heddlu Gwent fod disg wedi ei cholli oedd yn cynnwys enwau 2,300 o ddioddefwyr. Soniodd Dyfed Powys a Heddlu'r Gogledd am achosion o staff yn cael gafael ar fanylion personol pobl ar gyfrifiaduron yr heddlu. Dywedodd yr Uwcharolygydd Gary Osborne o Heddlu'r De: "Mae pob aelod staff yn cael gwybod beth yw'r canllawiau. "Pan gawson ni wybod am gamddefnydd fe wnaethon ni ymateb yn briodol. "Mae yna achosion gerbron llysoedd ar hyn o bryd, nifer wedi dod i'r amlwg oherwydd goruchwyliaeth Heddlu'r De. "Gallaf sicrhau'r cyhoedd fod digwyddiadau o'r fath yn brin a bod y mwyafrif o'n staff yn dilyn y canllawiau."
|