• NEWYDDION
  • Help / Cymorth

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009, 13:12 GMT 14:12 UK
Hartson yn dioddef o ganser

John Hartson ar ôl sgorio i Gymru
Daeth ei yrfa ryngwladol i Gymru i ben yn 2006

Cyhoeddwyd fod y pêl-droediwr John Hartson yn dioddef o ganser.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth iechyd: "Fe ddaeth i Ysbyty Singleton ddydd Gwener oherwydd symptomau'n gyson â chanser y ceilliau.

"Wedi nifer o brofion cadarnhawyd hynny.

"Yn anffodus, cadarnhawyd hefyd fod y canser wedi lledu i'w ymennydd."

Dywedodd ei deulu: "Mae'r teulu i gyd a ffrindiau John yn gwneud popeth posib i'w gefnogi ac rydyn ni'n gweddïo y bydd yn gwella'n llwyr.

"Mae'n cael gofal ardderchog yn yr ysbyty wrth iddo ddechrau ei driniaeth.

"Dyn teulu yw e ac rydyn ni'n gwerthfawrogi'r negeseuon o gefnogaeth gafodd eu derbyn eisoes."

Fe chwaraeodd i Luton Town, Arsenal, West Ham United a Coventry City cyn symud i Celtic.

Pêl-droediwr y Flwyddyn

Cafodd ei enwi'n Bêl-droediwr y Flwyddyn yng Nghymru yn 1998 a 2001.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ym mis Mawrth 1995 ym Mwlgaria a chynrychiolodd ei wlad 51 o weithiau a sgorio 14 o goliau.

Daeth ei yrfa ryngwladol i ben yn annisgwyl yn Chwefror 2006 wrth iddo gyhoeddi ei fod yn canolbwyntio ar chwarae i'w glwb.

"Rwy'n teimlo'n falch bob tro rwy'n gwisgo crys Cymru a bydd 'da fi atgofion melys am 'y nghyfnod i gyda'r tîm cenedlaethol," meddai wrth ymddeol.

Yn Gymro Cymraeg, fe gafodd ei fagu yn Y Trallwn, Llansamlet, ger Abertawe.

Fe wnaeth ei dad Cyril chwarae i Dîm Pêl-droed Llanelli yn y saithdegau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific