British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009, 11:25 GMT 12:25 UK
Damwain: Enwi menyw fu farw

Damwain
Roedd y car Audi gwyn wedi gadael y ffordd toc wedi 11pm

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi enwi'r fenyw 23 oed fu farw mewn damwain yn Ystradgynlais nos Sadwrn.

Roedd Lowri Evans, oedd yn dod o Ynys Uchaf ger Ystradgynlais, yn teithio yn y car wnaeth daro yn erbyn coeden.

Cafodd gyrrwr 24 oed y car ei arestio.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ryddhau'r fenyw o'r car gyferbyn â chyffordd Caerlan ger gorsaf bysiau Veola yn y dref.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y car Audi gwyn wedi gadael y ffordd ar yr A4067 toc wedi 11pm.

Cafodd dau deithiwr arall oedd yn y car anafiadau i'w gwddf ac fe gawson nhw driniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific