Bu tua 100,000 o gefnogwyr yn y ddinas yn ystod y prawf
|
Mae 'na amcangyfrif fod y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw wedi golygu mwy na £20 miliwn i'r economi leol. Bu 100,000 o gefnogwyr yng Nghaerdydd yn ystod y prawf pum niwrnod yng Ngerddi Sophia wrth i'r prawf gael ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf. Roedd 40 miliwn o bobl yn gwylio'r gêm yn fyw ar y teledu a hyd at 100 miliwn yn gwylio'r uchafbwyntiau. Hwn oedd y tro cyntaf i unrhyw gêm yn y gyfres gael ei chynnal y tu allan i Loegr ac Awstralia. 'Yn fwy eang' Dywedodd David Russ, rheolwr gyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru: "Rydyn ni'n amcangyfri y gallai'r prawf fod wedi dod â mwy nag £20m i'r ardal. "Bu'n gyfle gwych i farchnata'r ddinas yn fwy eang." Yn ôl y Prif Weinidog, Rhodri Morgan: "Roedd diweddglo'r gêm yn ffordd addas o sicrhau bod y gêm ei hun gystal â'r cyfleusterau gwych yn Stadiwm Swalec ac yn yr ardal." 'Elwa'n fawr' Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, fod y prawf cynta'n "hwb" i economi'r ardal. "Mae nifer o brif ddigwyddiadau chwaraeon wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd - o Gwpan Rygbi'r Byd i gemau rownd derfynol Cwpan yr FA. "Ond hwn oedd y tro cyntaf i gêm brawf criced gael ei chynnal yma. "Gan fod 16,000 bob dydd yn y stadiwm mae'r rhan hon o Gymru wedi elwa'n fawr ar y Lludw. "Ac mae wedi dangos i weddill y byd ba mor wych yw Caerdydd ..."
|