British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009, 10:11 GMT 11:11 UK
Cyn actor Pobol y Cwm yn marw

Geraint Owen
Roedd yn 43 oed

Mae un o gyn-actorion Pobol y Cwm wedi marw'n sydyn.

Fe gafodd Geraint Owen, 43 oed, waedlif ar yr ymennydd.

Yn nhŷ ei bartner yn Abertawe fe gafodd ei daro'n wael cyn cael ei ruthro i Ysbyty Treforys, Abertawe. Fe fu farw yn oriau mân dydd Sadwrn.

Dyw achos y farwolaeth ddim wedi ei sefydlu ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

Roedd yn dod yn wreiddiol o Dre-gŵyr, Abertawe ac roedd yn frawd i gyflwynydd y BBC ac S4C, Rhodri Owen.

Daeth i amlygrwydd wrth chwarae rhan y plismon Rhodri Phillips yn yr opera sebon ddyddiol.

Dywedodd pawb sy'n gysylltiedig â'r gyfres eu bod yn "drist iawn".

Roedd Geraint yn aelod o'r cast rhwng 1991 a 1996.

'Allweddol'

"Bu Geraint yn rhan allweddol o'r gyfres am flynyddoedd ac mae gan nifer o'r tîm atgofion hoffus am gydweithio ag o.

"Mae ein cydymdeimlad â theulu Geraint yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Yn ddiweddar, gwleidyddiaeth oedd wedi mynd â'i fryd wrth iddo gynrychioli Plaid Cymru yn ardal De Bryncoch, Castell-nedd Port Talbot, tan etholiad y llynedd.

Fe heriodd Peter Hain AS yn ystod Etholiad Cyffredinol 2005 ar gyfer sedd Castell-nedd.

Cyn hynny bu'n sefyll am sedd cynulliad Aberafan yn etholiad 2003.

'Colled fawr'

Dywedodd y Dr Del Morgan, arweinydd grŵp Plaid Cymru yn y sir: "Mae hon yn golled fawr.

"Roedd ei egni a'i frwdfrydedd yn anhygoel pan oedd yn sefyll yn erbyn Mr Hain.

"Ac roedd yn berson diffuant a serchus bob tro.

"Fe fydd colled fawr ar ei ôl."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific