Cafodd y dyn ei achub o'r llawr cyntaf
|
Cafodd dyn ei achub ar ôl i dân gynnau mewn tafarn fore Llun. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dafarn y Travellers Well yn Rhydyfro, Pontardawe tua 6am. Dechreuodd y tân yn ardal y bar a chafodd y dyn ei achub o'r llawr cyntaf. Aed ag ef i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau'r mwg.
|