Bu criwiau o'r Mwmbwls, Port Talbot a Phorthcawl yn chwilio
|
Mae timau achub oedd yn chwilio am ddyn 18 oed, aeth ar goll wrth nofio mewn harbwr ym Mhort Talbot, wedi dod o hyd i gorff. Cyhoeddywd mai Lyndon Twomey oedd ei enw. Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am 4.38pm ddydd Sul yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi diflannu wrth nofio. Bu criwiau o'r Mwmbwls, Port Talbot a Phorthcawl yn chwilio, ynghyd â hofrennydd yr awyrlu. Daethpwyd o hyd i'r corff yng Nghei Llewelyn, Port Talbot am 7.16pm ddydd Sul.
|