Fe syrthiodd y wal ac achosi rhwystr yn Constitution Hill
Bu'n rhaid i drigolion un o strydoedd amlyca Abertawe symud allan ar ôl i wal uchel syrthio i'r ffordd. Fe wnaeth rhan o wal Constitution Hill, yn agos i ganol y ddinas, syrthio yn fuan ar ôl hanner nos. Dywedodd un o'r trigolion lleol, Luke England, fod hi'n "wyrth" nad oedd neb yn pasio ar y pryd. Disgrifiodd ddarnau o'r wal 10 medr (32 troedfedd) fel rhai cymaint â maint car Mini.
Bu'n rhaid i rai o'r bobl leol symud o'r ardal
|
Dywedodd y gwasanaethau brys bod trigolion Ffordd Cromwell wedi cael eu symud fel mater o ddiogelwch. "Mae 'na lanast llwyr yna," meddai Mr England. Ychwanegodd bod 'na law trwm yn yr ardal ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r ardal tua 00.30am ddydd Sul. Fe fuodd swyddogion ar y safle tan i beiriannydd nwy â pheiriannydd o'r cyngor gyrraedd y safle. Chafodd neb anafiadau. Mae Constitution Hill yn ardal Townhill o'r ddinas.
|