British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2009, 14:21 GMT 15:21 UK
Llyfryn coginio bwyd môr

Llyfryn rysetiau Llywodraeth y Cynulliad
Llyfryn rysetiau Llywodraeth y Cynulliad

Mae 'na lyfryn newydd sy'n cynnwys rysetiau bwyd môr ac i hybu cynnyrch o Gymru wedi cael ei gynhyrchu a'i gyhoeddi.

Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi cynhyrchu'r llyfryn sy'n cynnwys "rysetiau blasus".

Y bwriad ydi i hybu cynnyrch môr o Gymru.

Elin Jones, Gweinidog Materion Cefn Gwlad Cymru, wnaeth gyflwyno'r copïau cyntaf yng Ngŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion yn Aberaeron.

Dywedodd bod cynnyrch Cymru ymhlith y gorau yn y byd.

Mae'r llyfryn yn cynnwys cyngor ar ddewis pysgod lleol a chynaliadwy.

Yn ôl y llywodraeth mae hybu pysgod a bwyd môr o Gymru yn rhan o'u strategaeth i gynnal "datblygiad cynaliadwy" i'r pysgodfeydd.

Dywedodd Ms Jones bod y llywodraeth wedi ymrwymo i gydweithio yn agos gyda'r masnachwyr i gynnig "amrywiaeth o ddewis mewn cynnyrch cynaliadwy i'r cwsmeriaid".

Daw'r llyfryn ar ôl i lyfryn arall gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, Bwyd Môr Cymreig, oedd yn rhoi cyngor ar be i'w brynu a lle i'w brynu.

"I gyd fynd a'r llyfryn arall rydym yn cyhoeddi llyfryn ar sut i goginio'r cynnyrch," meddai Ms Jones.

"Dwi eisiau diolch i'r cogyddion sydd wedi cyfrannu at y rysetiau ac sy'n gweithio'n galed i hybu cynnyrch bwyd môr Cymru sydd ymhlith y gorau yn y byd."

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd y bydd y diwydiant pysgota yng Nghymru yn derbyn dros £93,000 ar gyfer cyfres o brosiectau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific