Golygfa o'r fynwent ar gerdyn post tua 1900
|
Bu diwrnod agored yn un o fynwentydd Caerdydd ddydd Sul. Mae 'na 150 mlynedd ers i Fynwent Cathays agor. Dywed Cymdeithas Ffrindiau'r Fynwent bod y fynwent a'r capeli yn rhan o dreftadaeth Oes Fictoria y brifddinas. Maen nhw'n hynod o fach o ddathlu'r hanes. Cafodd llyfr am hanes y fynwent ei gyhoeddi i gyd fynd â'r 150 mlynedd. Roedd y diwrnod agored yn gyfle i'r cyhoedd hefyd weld y gwaith atgyweirio ar rai o'r adeiladau sydd yno. "Un o'r pethau pwysig yr ydan i wedi ei wneud ydi ail wneud y capeli sydd yn y fynwent," meddai John Farnhill, un o ffrindiau'r fynwent. "Mae'r cyngor wedi helpu ac wedi canfod arian i atgyweirio'r to. "Does 'na ddim byd yna, dim trydan, dim nwy, dim dŵr.
Mae prosiect £100,000 i adfer y capeli wedi cychwyn
|
"Mae 'na lot fawr o waith i'w wneud eto a fydd yn costio arian." Arglwydd Faer Caerdydd, Brian Griffiths, wnaeth ddadorchuddio plac yn y fynwent i nodi'r 150 mlynedd a chychwyn y gwaith o adfer y capel a'r marwdy. Mynwent Cathays ydi'r fynwent drefol mwya yng Nghymru. Cafodd ei hagor fel ymateb i'r Ddeddf Claddu cyntaf o ganlyniad i haint colera. Mae'r fynwent yn cwmpasu 100 acer o dir ac mae'n cynnwys beddi nifer o arweinwyr dinesig a busnes Caerdydd. Cafodd y bocsiwr Jim Driscoll ei gladdu yno a'r Capten Ernest Willows. Ym mis Ionawr 2009 y cychwynnodd yr apêl u godi £100,000 er mwyn adfer adeilad y capeli - un oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr Anglicaniaid ac un gan yr anghydffurfwyr - i'w hen ogoniant.
|