Roedd Cyngor Gwynedd am gau'r pwll nofio
|
Mae ymgyrchwyr wedi ennill eu brwydr i geisio cadw Pwll Nofio Harlech ar agor. Roedd y cyngor sir am gau'r pwll ac wedi dweud na fydden nhw'n gallu talu costau adnewyddu. Fe fydd ymddiriedolaeth yn gofalu am y pwll ac yn talu prydles i'r cyngor. Bu cynghorwyr Gwynedd yn trafod dyfodol yr adeilad ddydd Mawrth. Roedd pobl leol wedi cynnal ymgyrch am fisoedd yn erbyn cau'r pwll. Ystyried Pe bai'r cynghorwyr wedi gwrthod cynllun yr ymddiriedolaeth fe fyddai'r pwll wedi cau erbyn diwedd y mis. Mae 'na fwriad i fuddsoddi mewn wal ddringo a chaffi ar y safle. Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, eu bod wedi ystyried cynllun yr ymddiriedolaeth yn llawn. "Yn y dyddiau hyn wrth i ni ddarganfod £16 miliwn o arbedion dros y ddwy neu dair blynedd nesa, rhaid i ni ystyried yn ehangach sut y gallwn ni sicrhau bod adnoddau fel pyllau nofio neu ganolfannau hamdden ac ati yn gallu parhau yn y dyfodol. "Mae hwn yn ateb gan y gymuned. "Yn sicr, mae'r gymuned leol wedi dweud eu bod yn mynnu bod yr adnodd yn parhau." 'Annigonol' Yn Nhyddewi ac yn Nhreherbert yn Rhondda Cynon Taf mae'r pyllau lleol wedi cau yn ddiweddar. Ond mae ymgyrch ar y gweill i geisio ailagor pwll Treherbert. "Ar hyn o bryd mae'r cyngor wedi cynnig pwll nofio Ysgol Gyfun Treorci ond mae'n hollol annigonol," meddai Geraint Davies, cadeirydd y mudiad sy'n ymgyrchu i ailagor y pwll. "Dim ond dwy awr i oedolion, dwy awr i blant ac awr o acwa-arobics sy ar gael. "Maen nhw'n gorfod talu i fynd i'r pwll yna bum milltir i ffwrdd sy'n hollol wallgo. "Dwi'n gobeithio y bydd y cyngor yn helpu sefydlu cwmni er mwyn i'r plant ac oedolion ddefnyddio'r pwll sy'n hanfodol ar gyfer eu hiechyd ym mhen ucha Cwm Rhondda."
|