|
Mae gyrrwr car 24 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fenyw oedd yn teithio yn y car farw. Fe wnaeth y car daro yn erbyn coeden yn Ystradgynlais nos Sadwrn. Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ryddhau'r fenyw 24 oed o'r car gyferbyn â chyffordd Caerlan ger gorsaf bysiau Veola yn y dref, ond roedd hi wedi marw. Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y car Audi gwyn wedi gadael y ffordd ar yr A4067 toc wedi 11pm. Mae'r gyrrwr yn cael ei holi yng ngorsaf Aberhonddu. Cafodd dau deithiwr arall oedd yn y car anafiadau i'w gwddf ac fe gawson nhw driniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Wrth i'r heddlu ymchwilio roedd y ffordd ar gau. Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n rhyddhau enw'r fenyw ar hyn o bryd a'u bod yn cysylltu gyda'i theulu. Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion a allai fod yn teithio yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101 neu 0845 330 2000.
|