Fe wnaeth Siân Caiach wynebu achos disgyblu mewnol gan y blaid
|
Mae enw aelod o Blaid Cymru sydd wedi cael ei chyhuddo o ryddhau straeon i'r wasg wedi cael ei dynnu oddi ar restr ymgeiswyr etholiadol. Mae Siân Caiach, a oedd wedi gobeithio sefyll fel ymgeisydd yn Ogwr, wedi cael ei gwahardd rhag ymgeisio am ddwy flynedd. Dywedodd Ms Caiach, sy'n gynghorydd yn Sir Caerfyrddin ei bod yn "drist iawn" ynglŷn â'r penderfyniad. Fe wrthododd wneud sylw pellach. Mae'r blaid wedi dweud bod ei henw wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar ôl "cwyn a phroses disgyblu mewnol". Mae'r blaid yn cychwyn y broses o chwilio am aelod newydd i etholaeth Ogwr. Roedd Cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, wedi cyhuddo Ms Caiach o ryddhau cyfres o straeon i'r wasg dros y tair blynedd diwethaf. Ar ôl apêl i banel aelodaeth y blaid yr wythnos diwethaf, er na fydd Ms Caiach yn cael ymgeisio am sedd am ddwy flynedd fe fydd hi'n dal i fod yn aelod o'r blaid.
|