Cafodd y fenter ei sefydlu ym mis Mai 2006
|
Dyw cynllun Llywodraeth y Cynulliad i helpu disgyblion tlotaf Cymru ddim wedi arwain at "newidiadau mawr" yn lefel eu perfformiad hyd yma, yn ôl adroddiad. Mae £14 miliwn y flwyddyn wedi ei wario ers 2006 ar fenter Rhagori sy'n canolbwyntio ar wella llythrennedd y mwyafrif o ddisgyblion difreintiedig. Ond mae adroddiad Estyn, y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru, wedi dweud mai bach iawn o gynnydd sydd wedi bod ym mhob cyfnod allweddol. Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn croesawu'r argymhellion. Cafodd y fenter ei sefydlu ym mis Mai 2006. Roedd arian ar gyfer ysgolion lle oedd canran uchel o ddisgyblion yn cael cinio ysgol am ddim. Roedd tua 20% o ysgolion ag o leiaf 50 o ddisgyblion yn cael eu cynnwys ac fe gafodd hyd at £30,000 ei roi i ysgolion cynradd a hyd at £220,000 i ysgolion uwchradd. Gwella presenoldeb Yn ôl Estyn, cafodd yr arian ei ddefnyddio ar gyfer staff ychwanegol ac adnoddau ychwanegol i wella sefyllfa'r plant tlotaf. Mae'r mwyafrif o ysgolion wedi defnyddio'r arian i ganolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu. Ond fe wnaeth rhai ddefnyddio'r arian i sefydlu clybiau gwaith cartref, cynlluniau ymddygiad a gwella presenoldeb. Yn ôl Estyn, roedd y gwaith yn dda mewn 80% o'r ysgolion ac yn well na'r llynedd.
 |
Mae angen sicrhau bod yr arian yn effeithio'n hir dymor ar safonau a pherfformiad
|
Dywedodd Estyn bod ymddygiad, agwedd a phresenoldeb y disgyblion wedi gwella ond bod dim newidiadau sylweddol ym mherfformiad y disgyblion mwya gwan. Yn ôl yr arolygwyr, mae'n bosib na fyddai tystiolaeth o newidiadau tymor hir am beth amser. Mae'r adroddiad yn cynnwys sawl argymhelliad i ysgolion, awdurdodau addysg a Llywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys cyflwyno strategaethau i gau'r bwlch rhwng disgyblion breintiedig a disgyblion difreintiedig. 'Hir dymor' Dywedodd Meilyr Rowlands, arolygydd rheoli Estyn, fod effaith y fenter yn fawr o ran datblygiad personol a sgiliau cymdeithasol. "Nawr mae angen sicrhau bod yr arian yn effeithio'n hir dymor ar wella safonau a pherfformiad," meddai. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad mai adroddiad am drydedd flwyddyn y fenter oedd hwn. "Rydyn ni'n falch fod menter Rhagori wedi effeithio'n gadarnhaol ar ddisgyblion ... a bod 'na gynnydd mewn datblygiad personol a sgiliau cymdeithasol. "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i daclo effaith negyddol tlodi ar addysg drwy gynlluniau fel yr un hwn sy'n sail ar gyfer addysgu disgyblion difreintiedig ac a fydd yn rhoi budd yn yr hir dymor."
|