Dadl BRC ydi bod defnydd bagiau plastig eisoes wedi gostwng
|
Mae cymdeithas manwerthu yn cynyddu'r pwysau ar Lywodraeth y Cynulliad i ddileu cynlluniau i godi tâl gorfodol am fagiau plastig yng Nghymru. Dywedodd Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC) mai'r ffordd ymlaen ydi drwy ymdrech gwirfoddol ochr yn ochr â mentergarwch y siopau. Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau i godi rhwng 5c a 15c am ddefnyddio bag plastig. Yn ôl ffigyrau'r llywodraeth mae 480 miliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob blwyddyn. Mae'r BRC yn dweud bod ffigyrau yn dangos bod siopwyr wedi llwyddo'n well na'r targed gwirfoddol osodwyd i leihau effaith amgylcheddol bagiau plastig 25% erbyn diwedd 2008. Fe fydden nhw'n dweud wrth ymgynghoriad y llywodraeth mewn digwyddiad yn ddiweddarach yng Nghaerdydd y bydd codi tâl yn gallu arwain at "elyniaethu" cwsmeriaid. Gwneud gwahaniaeth "Yr hyn sydd eisiau er mwyn cael llwyddiant tymor hir yw canfod ffyrdd newydd derbyniol a fydd yn gwobrwyo cwsmeriaid yn hytrach na'u trethu," meddai Jane Milne, cyfarwyddwr amgylcheddol y BRC. "Mae pwyntiau teyrngarwch, bagiau hir dymor am ddim a pheidio arddangos bagiau yn gamau sy'n gwneud gwahaniaeth." Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson, bod y llywodraeth wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a bod 'na gefnogaeth drawsbleidiol. "Mae Cymru'n arwain y blaen drwy edrych ar ffyrdd o leihau'r defnyddio o fagiau plastig sy'n cael eu defnyddio unwaith a sut i annog mwy o bobl i ail-ddefnyddio bagiau," meddai. Dywedodd bod 'na dystiolaeth gref bod y cyhoedd eisiau gwaharddiad ar y bagiau plastig a bod deiseb wedi cael ei chyflwyno i'r Cynulliad. "Mae'n dangos bod pobl Cymru yn barod ar gyfer y newid," meddai. Gwadodd y byddai'r gost yn "dreth". "Does gan Lywodraeth y Cynulliad ddim pwerau i drethu," ychwanegodd.
|