Gyda gostyngiad mewn cyllid gall gwasanaethau gael eu cwtogi
|
Gall swyddi a gwasanaethau cyngor fod yn ddiogel er gwaethaf gwasgfa ar y gyllideb, yn ôl gweinidog cyllid Cymru. Mae cynghorau Cymru yn wynebu toriadau o filiynau o bunnoedd ond dywedodd Andrew Davies wrth BBC Cymru nad oedd rhaid i hyn arwain at doriadau. Daeth ei sylwadau ar ôl rhybudd y gall y wasgfa olygu colli 2,000 o swyddi o fewn yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Dywedodd Mr Davies y gallai'r arbedion ddod o newid trefn gweithio. Mae'n rhy gynnar meddai wrth BBC Cymru i drafod colli swyddi. "Dwi ddim yn meddwl bod dim byd yn anochel o ran cwtogi gwasanaethau neu golli swyddi," meddai. "Dwi ddim yn dweud na fydd hyn yn digwydd rhywbryd ond ar hyn o bryd, dwi'n meddwl bod 'na ddigon o dystiolaeth i wybod be sy'n gweithio." Colli swyddi Ychwanegodd wrth raglen The Politics Show bod rhaid gwneud newidiadau radical i'r drefn weithio bresennol o fewn y sector gyhoeddus. Ond dywedodd Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei bod yn anochel y bydd swyddi'n cael eu colli.
Fe wnaeth Mr Davied ei sylwadau ar raglen The Politics Show
|
"Y llynedd fe welson ni tua 700 o swyddi yn cael eu colli'r llynedd o fewn llywodraeth leol yng Nghymru," meddai. "Rydym wedi gwneud arolwg yn ddiweddar a chael gwybod bod 'na 2,000 ychwanegol o ddiswyddiadau i ddod y flwyddyn nesaf. "Bydd hyn yn cynyddu wrth i'r cyllidebau leihau dros y blynyddoedd nesaf." Y flwyddyn nesaf mae disgwyl toriadau o £216 miliwn yng ngwariant dyddiol y sector gyhoeddus. Fe all toriadau eraill o £200 miliwn ar gostau adeiladau ac asedau eraill. Dywedodd yr arbenigwr ar gyllid cyhoeddus, Yr Athro Tony Travers, y gallai cyfyngiadau ar wariant olygu y bydd rhaid i'r cyhoedd dalu am rai gwasanaethau. "Dwi'n credu'r math o syniadau radical all gael eu cyflwyno, fydd cynyddu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus neu gostau newydd," meddai. "Eisoes mae rhai wrthi'n meddwl ac yn cynllunio be fyddai'r opsiynau gorau..." Fe fydd 'na fwy ar y stori yma ar raglen The Politics Show ar BBC Un Cymru ddydd Sul am 11am.
|